Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ymgynghoriad ar gynlluniau i wella rhan ganol y dref o Daith Taf
- Categorïau : Press Release
- 14 Meh 2021

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn ymgynghori â phreswylwyr ar gynlluniau i wella diogelwch yr amgylchedd i gerddwyr a seiclwyr sydd yn defnyddio rhan brysur, canol y dref o Daith Taf.
Mae’r cynnig yn cynnwys creu llwybr a rennir ar gyfer cerddwyr a seiclwyr a hynny wrth ochr Stryd Bethesda, o’r groesfan pelican ger tafarn y Red Spice i’r gyffordd sydd ag arwyddion ar Heol Abertawe.
Bydd y llwybr troed presennol yn cael ei ledu gan gyflwyno llain las. Bydd y troad i’r dde a’r ynysoedd traffig cysylltiedig yn cael eu hepgor a bydd hyn yn lleihau cyflymder uchel bresennol y traffig yn sylweddol ar hyd y llwybr.
Bydd y lonydd troi ar Stryd Bethesda yn cael eu lleihau o dair i ddwy lôn, eto i gyfyngu ar gyflymder y traffig sydd yn defnyddio’r rhan hon o’r ffordd.
Bydd ceg y gyffordd â bythynnod Joseph Parry cyn cael ei ailalinio er mwyn gwella diogelwch ar gyfer cerddwyr, beicwyr a cherbydau.
Yn y dyfodol, bydd y llwybr yn cael ei ymestyn a bydd gwelliannau arfaethedig o’r Red Spice i ganol y dref, o Eglwys y Mormoniaid i ganol y dref ac i’r gorllewin lle y bydd yn dyfod yn llwybr oddi ar y ffordd unwaith yn rhagor.
Er mwyn cael dweud eich dweud ar y cynigion uchelgeisiol hyn, atebwch y cwestiynau canlynol ac anfonwch eich atebion atom erbyn canol dydd, 2 Gorffennaf 2021: https://bit.ly/3zsF76r
Rydym hefyd yn cynnal dau gyfarfod rhithiol ar Teams, Ddydd Llun 28 Mehefin am 12.30pm a 6.30pm er mwyn i breswylwyr gael clywed rhagor a gofyn cwestiynau. E-bostiwch active.travel@merthyr.gov.uk erbyn canol dydd, Dydd Gwener 25 Mehefin er mwyn cadarnhau os hoffech ymuno â ni.