Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ymgynghoriad ar gynlluniau i wneud Avenue de Clichy yn gyfeillgar i gerddwyr a seiclwyr
- Categorïau : Press Release
- 07 Meh 2021

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn ymgynghori â phreswylwyr ynghylch cynlluniau i greu gwell amgylchedd wrth y fynedfa i ganol y dref drwy wneud gwelliannau i Avenue de Clichy a’r system gylchu.
Byddai’r cynnig yn gweld llwybr a rennir i gerddwyr a seiclwyr yn rhedeg ochr yn ochr â’r ffordd brysur, gan gysylltu’r pentref hamdden a busnesau â’r gyfnewidfa fysiau newydd, canol y dref a’r orsaf drenau – tra bo Taith Taf hefyd yn cael ei chysylltu â chanol y dref a’i gyfleusterau.
Byddai’r llwybr yn rhedeg o’r groesfan i gerddwyr wrth gylchfan Caedraw i’r groesfan anffurfiol yn Stryd yr Alarch, gyda gwelliannau i’r mannau croesi ill dau. Byddai’r llwybr troed presennol yn cael ei ehangu a byddai gwrych bocs yn cael ei blannu ar y llain las.
Byddai’r gyffordd wrth y system gylchu tua’r gogledd yn cael ei haddasu gan gael gwared ar y cyfarwyddiadau “Ildiwch”; a byddai llwybr parhaus i’r traffig sy’n teithio tua’r de, gyda lôn chwith benodedig a lôn dde benodedig i’r cerbydau sy’n parhau o gwmpas y system gylchu.
Byddai’r man lloches canolog yn cael ei estyn i wneud lle i’r newid yng ngosodiad y ffordd ac i ddarparu cyfleusterau croesi diogelach hefyd a gwella arwyddion i seiclwyr a cherddwyr.
Y cynllun yw y byddai’r llwybr yn cael ei estyn mewn camau yn y dyfodol, gyda gwelliannau i gylchfan Caedraw i ddilyn yn ddiweddarach eleni.
Mae pont newydd hefyd wedi ei chynllunio i groesi Afon Taf, gan nad yw’r bont bresennol o safon ddigon da i seiclwyr.
Er mwyn dweud eich dweud am y cynigion hyn, cymerwch ran yn yr arolwg byr canlynol sy’n rhedeg tan ganol dydd 18 Mehefin 2021.