Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ymgynghoriad ar opsiynau wedi eu diweddaru ar gyfer ysgol Gatholig WaG 3-16 Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 06 Ion 2022

Yn dilyn ystyriaeth i ymgynghoriadau cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2021, mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn ymgynghori ymhellach ar opsiynau wedi eu diweddaru ar gyfer lleoli'r ysgol Gatholig WaG 3-16.
Y ddau opsiwn a argymhellir yw:
Opsiwn A - Y Greenie, gyda thir agored ar safle presennol Ysgol Uwchradd yr Esgob Hedley (YUEH) rhan 2. Hwn oedd yr Opsiwn 2 blaenorol gyda newidiadau mewn ymateb i’r ymgynghoriad blaenorol:
- Byddai'r cae chwarae cymunedol wedi ei leoli yn agosach i’r cae chwarae amlbwrpas presennol.
- Byddai yr ystafelloedd newid cymunedol yn adleoli i’r Caeau Blodyn Menyn ger a chae chwarae gwair cymunedol a’r cae 3G a rennir.
- Mae ardal werdd gymunedol ychwanegol wedi ei chynnwys ar Ran 2 (Safle Uchaf) o safle presennol YUEH.
- Llwybr teithio diogel o safle'r Greenie I’r Caeau Blodyn Menyn a safle cymunedol newydd ar safle Rhan 2 YUEH.
Fel ag yn yr opsiwn blaenorol, byddai adeilad yr ysgol, maes parcio ac ardal ollwng wedi ei lleoli ar gaeau chwarae y Greenie, gyda’r ddau gae yn cael ei adleoli i’r Caeau Blodyn Menyn. Byddai un cae yn gae pêl droed 3G pob-tywydd, a’r llall yn gae cymunedol.
- Opsiwn B - Safle presennol YUEH gyda chae rygbi ar un o’r caeau Blodyn Menyn. Dyma opsiwn newydd sbon. Byddai adeilad yr ysgol ac ardal ollwng y cynradd a chae chwarae'r cynradd yn cael ei leoli yn rhan 2 o safle presennol YUEH, gyda maes parcio, neuadd chwaraeon a chaeau chwarae wedi ei lleoli yn rhan 1 y safle. Lleolir cae rygbi ar lwyfan 2 o’r caeau Blodyn Menyn.
Mae’r ymgynghoriad newydd yn cael ei gynnal yn unol â Rheoliadau 2015 Caeau Chwarae (Ymglymiad y Cyhoedd mewn Penderfyniadau Gwaredu) (Cymru). Gan roi cyfle i’r holl fudd-ddeiliaid gan gynnwys defnyddwyr y caeau, preswylwyr lleol, rhieni, disgyblion, staff, llywodraethwyr ysgol, plwyfolion ac unrhyw un arall gyda diddordeb i fynegi barn ar y cynigiadau diweddaraf ac i helpu cefnogi'r Cyngor wrth benderfynu ar leoliad yr ysgol.
Bydd yr ymgynghoriad yn para am 6 wythnos o ddydd Iau Ionawr 6 hyd ddydd Iau Chwefror 17 2022 a gellir gweld manylion y cynnig gan gynnwys cynlluniau o’r safle ar-lein trwy ddilyn y linc ganlynol:
https://www.merthyr.gov.uk/vaschool
Fel arall, gellir gofyn am gopi papur trwy un ai ffonio'r Cyngor ar 01685 725000 neu e-bostio 3-16vaschool@merthyr.gov.uk <mailto:3-16vaschool@merthyr.gov.uk> Rhaid dychwelyd ymatebion i’r Cyngor wedi ei nodi At Sylw Project Ysgol 3-16 erbyn Chwefror 17.
Dwedodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Addysg, y Cyng. Lisa Mytton:
“Mae’r Cyngor llawn wedi ystyried yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad blaenorol ac wedi cytuno ar opsiynau wedi ei diwygio er mwyn ymgynghori ymhellach gyda’r cyhoedd.
“Mae'r rhain yn cynnwys opsiwn i ddatblygu ar safle presennol YUEH gan roi opsiwn gwahanol i ddatblygu adeilad yr ysgol ar y Greenie.
“Mae’r opsiwn i ddatblygu'r Greenie bellach yn cynnwys mwy o ardal werdd gymunedol er mwyn ymestyn y ddarpariaeth a chyfleusterau cymunedol ar draws safleoedd y Greenie, y Caeau Blodyn Menyn a safle presennol YUEH.
“Rydym eisiau'r datrysiad gorau posib i’r gymuned gyfan gyda’r ysgol hon -y disgyblion, trigolion lleol a defnyddwyr y cae - mae eich adborth chi yn allweddol i’r penderfyniad.”