Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwahoddiad i Gontractwyr ddysgu am gyfleoedd gorsaf bws £10m Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 15 Awst 2019
bus station 2

Caiff cyfleoedd i ddiwydiant adeiladu De Cymru ennill contractau cadwyn cyflenwi ar gyfer gorsaf fysiau newydd £10m Merthyr Tudful eu hamlinellu mewn digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr y mis nesaf.

Mae gwaith paratoi newydd ddechrau ar ailddatblygu safle’r cyn orsaf heddlu yn Stryd yr Alarch, a disgwylir cwblhau’r gwaith yn hydref 2020.

Mae’r prif gontractwr Morgan Sindall yn cynnig amrywiaeth helaeth o gyfleoedd is-gontractio i wasanaethau gan gynnwys sgaffaldau, diogelwch, gwaith dur strwythurol, gosod briciau, gwaith saer, plastro, mecanwaith â dyluniad, trydanol â dyluniad, llorio, drysau dur a shyteri rholer, to sinc a chladio, peintio ac addurno, tirlunio, arwyddion ffordd, teilio a glanhau.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cynnal digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr yng Nghanolfan Busnes Orbit ddydd Mercher, 11 Medi.

Caiff cyflenwyr arfaethedig gyflwyniadau sy’n manylu ar y gwaith i’w gyflawni a bydd tîm caffael y Cyngor wrth law i roi cefnogaeth a chyngor am sut i greu tendr am gontractau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £10m o arian ar gyfer yr orsaf fysiau, a gaiff ei lleoli’n nes at orsaf reilffordd y dref, i gydweddu’i buddsoddiad sylweddol yn Rhwydwaith Rheilffordd Llinellau Craidd y Cymoedd.

“Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol a Morgan Sindall wedi cynnal nifer o gyfarfodydd i sicrhau fod ymgysylltiad busnes lleol mewn perthynas â’r cyfleoedd yno, ac mae Morgan Sindall yn awyddus iawn i gynnig gwaith is-gontractio i’n cwmnïau lleol,” dywedodd Arweinydd cyngor Merthyr Tudful, y Cynghorydd Kevin O’Neill.

“Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi briff go iawn iddynt am yr hyn sydd ar gael, yn ogystal â darparu’r holl arweiniad sydd ei angen arnynt i sicrhau eu bod yn gwybod sut i wneud tendr am gontractau.”

• Bydd digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr ar 11 Medi a bydd yn rhedeg o 9am-1pm a hefyd yn galluogi'r rhai sy’n bresennol i ddarganfod sut i gofrestru eu diddordeb i gymryd rhan yn y prosiect. Er mwyn cofrestru i fod yn bresennol yn y cyfarfod, ffoniwch y Tîm Menter ar 01685 725289/725268.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni