Ar-lein, Mae'n arbed amser

Contractwyr yn dod i ddysgu am gyfleoedd gorsaf fysiau Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Medi 2019
Bus station meet the buyer event

Heddiw, gwnaeth cwmnïau ledled De-ddwyrain Cymru ddod i ddigwyddiad Cwrdd â’r Prynwr yn y gobaith o sicrhau gwaith gyda phrosiect adfywio pwysicaf cyfredol Merthyr Tudful.

Roedd gosodwyr briciau, sgaffaldwyr, seiri a thirlunwyr ymhlith yr 80 o bobl a mwy a oedd yn bresennol yng Nghanolfan Fusnes Orbit i ddysgu am y cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw i’w helpu i adeiladu gorsaf fysiau newydd Merthyr Tudful dros y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal â chlywed am y prosiect £10m, gwnaed y busnesau’n ymwybodol hefyd o waith adeiladu arfaethedig y dyfodol ym Merthyr Tudful a chael cyngor oddi wrth wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru am sut i gofrestru ar wasanaethau Sell2Wales ac eTenderWales.

“Nid oedd rhai aelodau o’r gynulleidfa’n gwybod am y gwefannau caffaeliad busnes hyn,” dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y Cynghorydd Kevin O’Neill. “Roedden nhw un ai heb fod yn ymwybodol y byddai’n rhaid iddynt gofrestru er mwyn cael gwaith neu doedden nhw ddim yn siŵr sut i fynd o’i chwmpas hi.

“Gwnaethom ni hefyd eu gwneud yn ymwybodol o gyfleoedd arfaethedig am brosiectau’r dyfodol gan gynnwys canolfan dreftadaeth ryngwladol Cyfarthfa, Parc Taf Bargoed a’r ailddatblygu yng nghanol y dref. Felly roedd yn ymarferiad ymgysylltu da i’r Cyngor a’r diwydiant adeiladu lleol fel ei gilydd.”

Mae gwaith paratoi ar gyfer yr Orsaf Fysiau newydd ddechrau gydag ailddatblygu cyn safle’r orsaf heddlu yn Stryd yr Alarch, a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn hydref 2020.

Mae’r prif gontractwr, Morgan Sindall yn cynnig cyfleoedd is-gontractio i wasanaethau gan gynnwys sgaffaldio, diogelwch, gosod briciau, saer coed, plastro, mecanyddol â dylunio, trydanol â dylunio, gosod lloriau, drysau dur a shyteri rholer, to sinc a chladio, paentio ac addurno, tirlunio, arwyddion, marciau ffordd, teilio a glanhau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £10m ar gyfer yr orsaf fysiau, a fydd wedi ei lleoli’n nes at orsaf reilffordd y dref, i gydweddu â’i buddsoddiad sylweddol yn Rhwydwaith Rheilffordd Llinellau Craidd y Cymoedd.

Disgrifiodd y Cynghorydd O’Neill yr orsaf fysiau fel prosiect blaenllaw cyfredol yr awdurdod a dywedodd bod y Cyngor am wneud cyfiawnder ag ef - nid yn unig o ran y cynnyrch gorffenedig, ond hefyd o ran y cyfleoedd a grëwyd ganddo i’r economi leol.

“Pa bryd bynnag mae’r Cyngor yn dechrau ar ddatblygiad mawr, o’r natur hwn, nid yw’n hadran datblygu economaidd yn gadael allan unrhyw fanylyn er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’r potensial cyflogaeth ac economaidd ehangach,” ychwanegodd.

“Mae Morgan Sindall yr un mor awyddus ag yr ydym ni i weld cyffro o ran contractau cadwyni cyflenwi i gwmnïau ym Merthyr Tudful a’r ardal amgylchynol, ac roedden nhw yma heddiw i amlinellu’r amrywiaeth helaeth o ofynion is-gontractio.

“Rwy’n gobeithio y byddwn, wrth gydweithio, yn gallu creu gorsaf fysiau anhygoel i’r 21ganrif a fydd yn gwasanaethu preswylwyr Merthyr Tudful ac ymwelwyr â’r dref am amser hir i’r dyfodol.”

• Gellir cael gwybodaeth bellach a chefnogaeth am sut i gymryd rhan ym mhrosiect yr orsaf fysiau oddi wrth Phillip Church ar 02920 811398/ 07814 771902; e-bost phillip.church@morgansindall.com

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni