Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cydweithio rhwng y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth yn darparu gwasanaeth ‘enghreifftiol’
- Categorïau : Press Release
- 02 Meh 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Lles@Merthyr (sef yr Ymddiriedolaeth Hamdden yn flaenorol) wedi cefnogi cyflenwad o bron i 30,000 o frechlynnau Covid-19 dros y pedwar mis diwethaf.
Mae staff o’r awdurdod lleol a Lles@Merthyr wedi bod yn cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar y rhaglen brechu torfol ym mhrif neuadd Canolfan Hamdden Merthyr Tudful – gan sicrhau hefyd fod gweddill cyfleusterau’r adeilad a’i ddosbarthiadau ar gael ar gyfer gweithgareddau chwaraeon.
Cafodd cyfanswm o 28,383 brechlyn eu rhoi yn y ganolfan, gyda 23,150 o breswylwyr yn derbyn eu dos cyntaf a 5,233 o bobl yn cael eu brechu’n llwyr gyda’u bod wedi derbyn y dos cyntaf a’r ail.
Mae meddygfeydd Meddygon Teulu wedi bod yn rhoi brechlynnau ledled y fwrdeistref sirol a chyflogai’r Bwrdd Iechyd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl gan ddod â’r cyfanswm a roddwyd ym Merthyr Tudful i 57,885. O'r rhain, roedd 38,610 wedi cael y dos cyntaf a 19,275 wedi cael y dos cyntaf a’r ail.
Dywedodd Prif Weithredwr Lles@Merthyr, Jane Sellwood: “Mae staff y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth wedi sicrhau fod y ganolfan frechu yn rhedeg yn llyfn, gan helpu i gyfeirio pobl i’r ardaloedd cywir. Mae staff y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth wedi sicrhau fod y ganolfan frechu’n rhedeg yn llyfn, gan gyfeirio pobl at yr ardaloedd cywir. Mae staff hamdden ar y safle’n gwneud yn siŵr fod yr holl brofi cydymffurfio yn digwydd a gellir gwagio’r adeilad yn sgil tân os yw’n ofynnol. Maen nhw hefyd yn ateb ymholiadau ac yn gyffredinol yn cefnogi gweithredu parhaus y ganolfan a’r staff sydd yn ei rheoli.
“Maen nhw wedi darparu amgylchedd glân a chroesawgar, tra bo ardaloedd eraill o’r ganolfan yn gallu agor a gweithredu’n ddiogel o dan ganllawiau’r Llywodraeth,” ychwanegodd.
“Rydyn ni wedi croesawu gymnastwyr yn ôl i’r neuadd gymnasteg, croesawu defnyddwyr hen a newydd i’r gym ac rydym yn datblygu opsiynau o gwmpas dosbarthiadau dan do ac yn yr awyr agored. Tra bo’r niferoedd yn gyfyngedig i ddosbarthiadau yn sgil y gwagle sydd ar gael, mae wedi bod yn hyfryd gweld cynifer o wynebau hen a newydd yn ailgychwyn ar eu taith ffitrwydd.
“Mae Lles@Merthyr yn falch o gael cefnogi ymdrechion y GIG drwy ddefnyddio ein cyfleustra a chyflymu, gobeithio, ddychweliad at weithgareddau normal a gafwyd cyn bod trasiedi’r pandemig yn ein taro.
“Gwyddom fod llawer o bobl yn colli dosbarthiadau a gweithgareddau, ond gydag ymdrechion GIG a Llywodraeth Cymru wrth ledaenu’r brechlyn – ein gobaith yw y byddwn yn dychwelyd i normalrwydd yn gyflymach a chael pawb yn ôl at chwaraeon a gweithgareddau yn ddiogel.”
Dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio, Trawsnewid a Masnacheiddio, y Cynghorydd Geraint Thomas: “Mae’r Cyngor yn falch fod y ganolfan hamdden wedi bod wrth galon y rhaglenni profi a brechu torfol ym Merthyr Tudful.
“Mae ein staff ni a staff Lles@Merthyr yn cymryd eu rolau’n ddifrifol iawn gan eto gefnogi gweithrediad sy’n enghreifftiol o ran sut i redeg cyfleuster iechyd argyfwng.”