Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor yn derbyn cyllid oddi wrth y Loteri Genedlaethol i gefnogi Gweithgareddau Marchnata’r Gymraeg
- Categorïau : Press Release , Council , Corporate
- 26 Mai 2022

Bydd y Cyngor yn gallu cryfhau ei gweithgareddau Cymraeg, oherwydd dyfarniad o £9700 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Bydd y cyllid yn help wrth hyrwyddo Strategaeth Addysg Gymraeg yr awdurdod a’r Strategaeth iaith Gymraeg. Bydd y dyfarniad sylweddol yn gwella ymhellach y strategaeth cyfathrebu er mwyn parhau i gefnogi partneriaid wrth farchnata digwyddiadau Cymraeg ar hyd a lled y Fwrdeistref.
Dwedodd Sue Walker, Cyfarwddwr Addysg: “Rydym mor falch i dderbyn y grant hwn gan y loteri. Bydd yn cefnogi ein gweithgareddau Cymunedol ardraws y Bwrdeistref Sirol sydd yn hyrwyddo’r Iaith Gymraeg. Mae’r digwyddiadau yma yn allweddol a fydd yn ei helpu i weithio tuag at weledigaeth o wneud Merthyr Tudful - #Shwmaeronment -yn lle ble mae’r Gymraeg yn cael ei dathlu.
Er mwyn darganfod mwy am wneud cais am grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ewch at www.tnlcommunityfund.org.uk/wales <http://www.tnlcommunityfund.org.uk/wales>