Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor yn derbyn cyllid i fynd i’r afael a mater gwm cnoi ar strydoedd Merthyr Tydfil

  • Categorïau : Press Release
  • 19 Gor 2023
Chewing gum

Bydd grant o £25 miliwn gan y Tasglu Gwm Cnoi yn helpu CBSMT lanhau gwm cnoi a lleihau ar daflu gwm cnoi.

Mae'r cyngor yn un o 56 ar draws y wlad sydd wedi gwneud cais llwyddiannusam y cyllid, wedi’i sefydlu gan Defra a’i Arianni gan gynhyrchwyr gwm mawr gan gynnwys Mars Wrigley a Perfetti Van Melle, sydd nawr yn ei ail flwyddyn. Mae'r gronfa yn galluogi cynghorau i wneud cais am gyfran o fwy na £1.2 miliwn i lannhau gwm cnoi oddi ar balmentydd a'i atal rhag cael ei wasgaru eto.

Yn ei flwyddyn gyntaf cefnogodd y tasglu glanhau tua 2.5km2 o balmentydd – ardal sy'n fwy na 467 o gaeau pêl-droed!  Mae gwaith monitro a gwerthuso a gynhaliwyd gan Newid Ymddygiad wedi dangos bod cyfradd is o sbwriel gwm yn dal i gael ei weld mewn ardaloedd a gafodd fudd y llynedd chwe mis ar ôl glanhau a gosod deunyddiau atal.

Dywedodd y Cynghorydd David Hughes Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y grant hwn, gan ei fod yn rhoi modd i ni gymryd camau breision yn ein brwydr yn erbyn taflu sbwriel gwm.

“Gyda’r arian, byddwn yn gallu buddsoddi mewn peiriant arbenigol o’r radd flaenaf sydd wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer cael gwared ar gwm cnoi, gan ein galluogi i fynd i’r afael yn effeithlon ac yn effeithiol â’r broblem barhaus o sbwriel gwm sy’n bla ar ein Stryd Fawr. Bydd arwyddion sydd wedi'u gosod yn strategol hefyd yn codi ymwybyddiaeth ac yn addysgu'r cyhoedd am effaith sbwriel gwm ar ein hamgylchedd. Mae’r grant yn rhoi adnoddau i ni greu cymuned lanach sy’n rhydd o gwm i’r holl drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.”

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Rebecca Pow: “Mae sbwriel yn difetha ein cymunedau, yn difetha ein cefn gwlad, yn niweidio ein bywyd gwyllt ac yn gwastraffu arian trethdalwyr wrth ei lanhau. Dyna pam rydyn ni’n gweithio gyda chynhyrchwyr gwm i fynd i’r afael â staeniau gwm cnoi.

“Ar ôl llwyddiant y rownd gyntaf o gyllid, bydd y darn nesaf hwn yn rhoi cymorth pellach i gynghorau lanhau ein trefi a’n dinasoedd.”

Drwy gyfuno glanhau strydoedd wedi’i dargedu ag arwyddion wedi’u dylunio’n arbennig i annog pobl i roi eu gwm cnoi yn y bin, llwyddodd y cynghorau a gymerodd ran i sicrhau gostyngiad o hyd at 80% mewn sbwriel gwm yn y ddau fis cyntaf.”

Dywedodd Allison Ogden-Newton OBE, prif weithredwr Cadw Prydain yn Daclus: “Mae sbwriel gwm cnoi yn amlwg iawn ar ein strydoedd ac mae’n anodd ac yn ddrud i’w lanhau, felly mae’r gefnogaeth i gynghorau a ddarperir gan y Tasglu Gwm Cnoi a’r cmwniau gwm cnoi i’w groesawu’n fawr.

“Fodd bynnag, unwaith y bydd y gwm wedi’i lanhau, mae’n hollbwysig atgoffa’r cyhoedd, boed yn gwm neu unrhyw sbwriel arall, mai dim ond un lle y dylai fod – sef yn y bin – a dyna pam y mae’r elfen newid ymddygiad yn rhan mor bwysig o waith y tasglu.”

Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod cost glanhau blynyddol gwm cnoi i gynghorau yn y DU tua £7 miliwn.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni