Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwobr Arian i’r Cyngor gan Gynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn
- Categorïau : Press Release
- 04 Awst 2022

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ennill gwobr Arian gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei Chynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn.
Mae’r cynllun sy’n cynnwys gwobr efydd, arian ac aur i sefydliadau cyflogi sy’n ymrwymo, eirioli neu gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog ac Amddiffyn ac alinio ei gwerthoedd gyda Chyfamod y Lluoedd Arfog. Mae’r Cyngor wedi arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog, gan ddangos ymroddiad i gefnogi'r gymuned Lluoedd Arfog presennol a’r rhai sydd wedi ymddeol.
Dwedodd eiriolwr Lluoedd Arfog y Cyngor, y Cyng. Andrew Barry,: “ Rydw I’n falch bod ein Cyngor wedi derbyn y Wobr Arian. Mae’r wobr yn pwysleisio'r gefnogaeth mae’r Cyngor yn ei roi i’r Gymuned Lluoedd Arfog ac yn cydnabod y gwerth maent yn dod i’r cyngor fel cyflogai.
“Mae’r polisïau a’r gweithdrefnau rydym wedi ei sefydlu fel rhan o’r gwaith yn mynd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n cyflogai Lluoedd Arfog a’u teuluoedd nawr ac yn y dyfodol.
“Rydw i’n falch o’r gwaith rydym wedi ei gyflawni a hoffwn ddiolch i bob un fu’n gyfrifol am gyflawni’r wobr; a chydnabod y gofal a’r proffesiynoldeb maent wedi ei ddangos.”
Am fwy o wybodaeth am Gynllun Gydnabyddiaeth cyflogwr y weinyddiaeth Amddiffyn gallwch gysylltu gydag ein Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog ar 07747485619 neu ymweld â www.merthyr.gov.uk/VeteranService