Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor yn Sefydliad Carbon Wybodus
- Categorïau : Press Release
- 15 Maw 2022

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi derbyn gwobr Efydd Sefydliad Carbon Gwybodus fel rhan o’r ymgyrch i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030.
Mae’r wobr gan y Project Carbon Gwybodus (PCG) yn gydnabyddiaeth sy’n cael ei dderbyn yn rhyngwladol, bod y Cyngor yn blaenoriaethu gweithredu newid hinsawdd trwy hyfforddi ei huwch Reolwyr.
Mae rhaglen hyfforddi PCG yn helpu sefydliadau a’i cyflogai i ddeall effaith carbon ar weithredoedd dydd i ddydd a gwneud penderfyniadau gwybodus i leihau allyriadau carbon.
Dwedodd y Cyng. Michelle Jones, Yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth: “ Rydym wrth ein bodd i dderbyn yr achrediad sy’n dangos ymrwymiad y Cyngor i wireddu targed Llywodraeth Cymru o Sector Gyhoeddus Garbon Niwtral erbyn 2030. Mae dangos ein hymrwymiad i fod yn Garbon Wybodus yn golygu ein bod o ddifrif am sefydlu a chynnal diwylliant Carbon isel.
“Mae staff y Cyngor eisoes wedi dechrau gweithredu ar yr hyn maent wedi ei ddysgu o’r hyfforddiant ac mae cynlluniau i gynnig mwy o hyfforddiant i staff fel bod pawb yn gwybod beth i’w wneud i wneud gwahaniaeth.”