Ar-lein, Mae'n arbed amser

Diweddariad Cyllideb y Cyngor 2025/26

  • Categorïau : Press Release
  • 04 Chw 2025
council budget settlement quote brent - eng

Ddydd Mercher 26 Chwefror 2025, bydd aelodau etholedig Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cael cynigion arbed i'w hystyried, gyda'r bwriad o osod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Ar ddechrau 2024, rhoddwyd cynllun cynilo ar waith gyda tharged i gyrraedd £8.8 miliwn o arbedion. Gwnaed cryn dipyn o waith drwy gydol y flwyddyn i sicrhau y byddai modd cyflawni'r holl gynigion a nodwyd yn y cynllun a nodwyd rhaglen o arbedion tymor hwy gyda'r bwriad o gyflawni'r rhain dros gyfnod hwy o amser. Mae'r broses hon wedi cynnwys dadansoddiad gofalus a chynllunio strategol i sicrhau bod yr arbedion hyn yn cael eu gwireddu mewn modd cynaliadwy ac effeithiol.

Mae gosod y gyllideb yn heriol dros ben gyda phwysau ychwanegol - yn enwedig yn ymwneud ag oedolion a gofal cymdeithasol plant gan fod y costau’n parhau i godi. Mae'n bwysig cydnabod bod peth o'r pwysau hyn y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, er enghraifft newidiadau yng nghyllid y Llywodraeth neu heriau economaidd annisgwyl, ond er gwaethaf y ffactorau allanol hyn rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyngor yn parhau i fod ar sail sefydlog yn ariannol, ac wrth wneud hynny rydym wedi yswirio bod cyllidebau ysgolion yn cael eu diogelu ar gyfer 2025/26.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Lywodraethu ac Adnoddau, y Cynghorydd Anna Williams-Price: "Rydym yn deall pwysigrwydd tryloywder a chynwysoldeb wrth wneud penderfyniadau ac rydym am sicrhau bod barn y gymuned bob amser yn cael ei hystyried.

"Hoffem ddiolch i'r holl drigolion a gymerodd ran yn ein hymgynghoriad diweddar ar y gyllideb. Mae’ch mewnbwn wedi bod yn hynod werthfawr i'n helpu i wneud penderfyniadau gwybodus sy'n diwallu anghenion a blaenoriaethau ein cymuned. Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod rydym eisiau rhaglen ymgysylltu hyd yn oed yn fwy cynhwysfawr fel y gallwn ddeall anghenion ein cymunedau a sicrhau bod pob ceiniog o'r gyllideb yn cael ei dyrannu i'r gwasanaethau sydd ei angen fwyaf."

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Brent Carter: "Mae'r cynnydd yng Nghyllideb y Cyngor gan Lywodraeth Cymru yn gam cadarnhaol mewn gwirionedd, ond mae'n rhaid i ni nodi arbedion o hyd i gydbwyso'r gyllideb.

"Rydym yn canolbwyntio ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o gyflawni arbedion a lleihau'r pwysau cynyddol ar wasanaethau, heb gyfaddawdu ar ansawdd. Mae hyn yn cynnwys newid y ffordd rydym yn gweithio fel cyngor drwy newid ein model gweithredu yn sylfaenol, dod â rhai swyddogaethau at ei gilydd ac adolygu pob gwariant.

"Mae’n cynllun cynilo yn mynd rhagddo'n dda. Rydym yn hyderus i gyrraedd ein targedau ar gyfer y flwyddyn bresennol a byddwn yn sicrhau ffocws parhaus ar gyflawni arbedion yn ystod y Cynllun Ariannol 3 Blynedd.

"Yn yr hinsawdd ariannol bresennol, does gan y rhan fwyaf o Gynghorau ddim dewis ond cynhyrchu incwm, yn gynnwys drwy gynnydd y Dreth Gyngor. Yn ystod ein hymgynghoriad diweddar ar y gyllideb, gwnaethom ofyn barn trigolion ar sut y dylem flaenoriaethu gwasanaethau a gosod y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Dangosodd y canlyniadau y byddai 36% o bobl yn cwtogi ar wasanaethau i gadw'r Dreth Gyngor mor isel â phosibl, gyda 64% yn dewis cynnal gwasanaethau, hyd yn oed os yw'n golygu cynnydd yn y Dreth y Cyngor. Gyda hyn mewn golwg, eleni rydym yn cynnig cynyddu’r Dreth Gyngor hyd at 6%. Pe bai'n cael ei gytuno, byddai'r cynnydd yn gweld aelwyd Band A yn talu hyd at £1.52 yn ychwanegol yr wythnos ac aelwyd Band D yn talu hyd at £2.28 yn ychwanegol yr wythnos.

"Bydd y cynnig hwn yn cael ei wneud mewn cyfarfod Cyngor Llawn ar 26 Chwefror, lle bydd gan bob un o'r 30 aelod etholedig bleidlais. Byddwch yn dawel eich meddwl y byddwn yn gweithio ochr yn ochr â swyddogion y Cyngor hyd at hynny i geisio cadw'r cynnydd mor isel ag y gallwn.

"Fel Arweinydd, roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n rhoi gwybod i'n trigolion o flaen llaw, er mwyn rhoi cyfle i bobl gynllunio ar gyfer y newid posibl hwn.

"Fel bob amser, rydym yn gwerthfawrogi’ch dealltwriaeth a'ch cefnogaeth gan y byddwn yn parhau i weithio tuag at gynnal sefydlogrwydd ariannol eich Cyngor ar gyfer y dyfodol."

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni