Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor yn llongyfarch Calon Fawr Merthyr Tudful ar dderbyn gwobr bwysig
- Categorïau : Press Release
- 27 Mai 2021

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi llongyfarch Calon Fawr Merthyr Tudful wedi i’r dref gael ei henwi’n un o bartneriaethau busnes canol tref gorau’r DU.
Mae Ardal Gwella Busnes Merthyr Tudful (AGB) wedi ennill statws achrediad swyddogol gan AGB Prydain.
Dyfarnir y wobr bwysig am lywodraethu da, systemau ariannol cryf a thryloywder. Calon Fawr Merthyr Tudful yw un o’r 27 AGB yn y DU i gyflawni’r achrediad.
Mae dros 200 o siopau a busnesau ym Merthyr Tudful yn cyfrannu at yr AGB er mwyn hyrwyddo’r dref, croesawu ymwelwyr a chreu amgylchedd masnachu iach. Mae achrediadau’n golygu fod gan fusnesau sicrwydd eu bod yn derbyn gwerth am arian gan AGB sydd yn cael ei rheoli’n dda.
Dywedodd Elizabeth Bedford, Rheolwr Calon Fawr Merthyr Tudful: “Mae’n anrhydedd enfawr i’r dref ac mae’r amseru’n berffaith wrth i siopau a busnesau ailagor. Mae canol ffyniannus ein tref ar agor i groesawu ymwelwyr unwaith yn rhagor.”
Trodd flaenoriaethau AGB Merthyr i gynorthwyo busnesau drwy’r pandemig gan ddarparu cyfarpar diogelu personol, cyngor proffesiynol yn rhad ac am ddim ac ymgyrchoedd marchnata.
Ychwanegodd Mrs Bedford: “Byddwn yn cynnal ymgyrchoedd marchnata parhaus trwy gydol y flwyddyn er mwyn cynorthwyo busnesau. Maes arall yr ydym yn rhoi blaenoriaeth iddo yw anghenion digidol cwmnïau a hynny ar adeg pan mae busnesau’n edrych ar e-fasnachu’n fwy nag erioed.
“Mae’n debygol y bydd hi’n flwyddyn nesaf cyn y bydd yr AGB yn gallu ailddechrau ei rhaglen ddigwyddiadau poblogaidd a fydd y cynnwys y gwyliau bwyd a chili blynyddol.”
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar gyfer Adfywio, Trawsnewid a Masnacheiddio: “Er gwaethaf amgylchiadau anodd y flwyddyn a fwy diwethaf, mae Bwrdd AGB a’r staff wedi parhau i arddangos llywodraethu da, rheolaeth staff a chyfathrebiadau â thalwyr ardollau.
“Mae’n cynnig gwasanaeth rhagorol i’w aelodau ac mae’n cynorthwyo busnesau i godi yn ôl ar eu traed gan sicrhau fod canol ein tref yn brysur unwaith yn rhagor.”