Ar-lein, Mae'n arbed amser
Canolfan a Theatr Soar yn derbyn cydnabyddiaeth am eu rheolaeth wych fel sefydliad gwirfoddol
- Categorïau : Press Release
- 23 Rhag 2021

Maer cyngor wedi llongyfarch Canolfan a Theatr Soar am dderbyn Wobr Safon Ansawdd Elusen Ddibynadwy sydd yn cydnabod eu gwaith gwych fel sefydliad yn y trydydd sector.
Cawsant eu hasesu ar sail 11 safon gan gynnwys yr ymarfer gorau fel elusen. Cafodd eu dull llywodraethu a rheoli eu gwerthuso, gan gynnwys y modd y mae’r sefydliad yn gwneud defnydd effeithiol o’i gyllid.
Mae Canolfan a Theatr Soar yn ganolbwynt cymunedol Cymraeg, celfyddydau a threftadaeth. Mae'r ganolfan yn cynnig ystafelloedd ar gyfer gweithgareddau cymunedol, cyfarfodydd, cyrsiau a pherfformiadau. Mae'r sefydliad yn gweithio ar y cyd ag eraill i integreiddio'r iaith i'r gymuned, gan gynnig croeso cynnes i bawb.
Mae’r Ganolfan hefyd yn darparu gwasanaeth cyfieithu i’r Cyngor sydd yn hollbwysig er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd yn y Fwrdeistref.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Dirprwy Arweinydd ac Eiriolwr yr Iaith Gymraeg yn y Cyngor: Mae'r gydnabyddiaeth hon yn brawf pellach o'r gwaith anhygoel a wneir ym Mwrdeistref y Sir gan ein partneriaid trydydd sector. Mae'r hyn a ddarperir gan Ganolfan a Theatr Soar a Rheolwr Lisbeth McLean, Prif Swyddog Menter Iaith Merthyr Tudful, ar gyfer Merthyr Tudful yn wirioneddol ryfeddol. Mae mentrau fel Menter Iaith Merthyr Tudful, Cymraeg i Oedolion, Dysgu Morgannwg a Cylch Meithrin Soar wedi rhoi croeso cynnes i’n preswylwyr. Rwy'n dymuno'r llwyddiant parhaus i'r sefydliad hwn y mae'n ei haeddu. "
Er mwyn canfod rhagor am Ganolfan a Theatr Soar, ewch i www.theatrsoar.cymru