Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor yn llongyfarch Ymddiriedolaeth Stephens and George am ennill tair gwobr nodedig
- Categorïau : Press Release
- 02 Awst 2021

Mae’r Cyngor am longyfarch Ymddiriedolaeth Elusennol Canmlwyddiant Stephens and George, Merthyr Tudful, am ennill tair gwobr nodedig yr haf hwn.
Yn fuan ar ôl cipio Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol – yr anrhydedd uchaf a roddir i wirfoddolwyr yn y DU – mae cangen cwmni printio’r elusen hefyd wedi ennill y categori Addysg a Hyfforddiant yng Ngwobrau Elusennau 2021.
Daeth y trydydd acolâd wythnos yn ddiweddarach pan gyflwynwyd Gwobr yr Uchel Siryf i’r Ymddiriedolaeth oddi wrth Jeffrey Edwards MBE, Uchel Siryf Morgannwg Ganol, fel cydnabyddiaeth am ‘wasanaeth gwych a gwerthfawr i’r gymuned’.
A’r mis hwn, gwnaeth llyfr a ysgrifennwyd yn ystod y clo mawr gan wyth o ofalwyr ifanc o Bernardo’s Merthyr Tudful – a oedd yn cwrdd yn wythnosol ar sesiynau Zoom – ennill Prosiect Digidol Rhagorol y Flwyddyn yng Ngwobrau Academi Llwyddiant Merthyr Tudful.
Cafodd prosiect llyfrau Scarers and Carers ei ariannu gan grant a enillwyd gan yr Ymddiriedolaeth, a ffurfiodd bartneriaeth gyda Barnardo’s, yr awdur Mike Chyrch a’r arlunydd Osian Grifford i’w gynhyrchu.
Ac mae’n bosibl y bydd hyd yn oed rhagor o wobrau ar y gorwel – mae Cydlynydd Elusennol yr Ymddiriedolaeth, Helen Hughes ar restr fer Hyrwyddwyr Cymunedol Gwobrau Chwarae Teg Womenspire 2021 a gynhelir fis Medi.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu ac Ymddiriedolwr, y Cynghorydd Lisa Mytton: “Mae’r Ymddiriedolaeth Elusennol wedi arddangos Merthyr Tudful i’r sector addysgiadol ledled y DU gyda’r tair gwobr ragorol hyn.
“Mae anrhydedd y Gwobrau Elusennol yn cydnabod amrywiaeth o fentrau’r Ymddiriedolaeth i fynd i’r afael â chyfraddau isel o lythrennedd ymhlith plant ysgol yn y fwrdeistref sirol, ac mae’n wobr deilwng am eu holl ymdrechion. Llongyfarchiadau unwaith eto!”