Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor yn ymgynghori am gynlluniau diogelwch ysgolion
- Categorïau : Press Release
- 30 Meh 2022

Mae’r Cyngor yn ymgynghori gyda phreswylwyr am gynlluniau i wneud newidiadau i’r briffordd mewn dwy ysgol gynradd oherwydd pryderon am ddiogelwch.
Mae llythyr wedi ei anfon at breswylwyr Ffordd Caedraw ger Ysgolion Ysgol Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Gynradd Caedraw yn gofyn iddynt gymryd rhan mewn arolwg am gynlluniau i greu gwell amgylchedd ar y briffordd.
Mae pryderon wedi codi am ddiogelwch yn y lleoliad oherwydd y nifer cerbydau yn parcio ar y pafin ar ffordd sydd â chyfyngiadau mynediad ati yn unig.
Mae’r cynlluniau yn cynnwys darparu lôn seiclo ‘ar y ffordd’, gwahardd aros, llwytho a dadlwytho ar unrhyw adeg ac ychwanegu rhybuddion ‘ysgol, cadwch yn glir’ a chadw’r ardal barcio i dacsis.
Mae grant am y gwaith wedi ei dderbyn o Gronfa Teithio Lesol Llywodraeth Cymru, gyda’r bwriad o wella’r cyfleusterau ar gyfer cerddwyr a seiclwyr a gwella’r amgylchedd ar gyfer preswylwyr.
E-bostiwch unrhyw sylwadau at active.travel@merthyr.gov.uk dydd Sul Awst 2022.