Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Cyngor yn cynnal ymgynghoriad ar gyfer un Ysgol Sengl Gatholig

  • Categorïau : Press Release
  • 30 Ebr 2019
Cwm Taf Hub - Have your say logo

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ymgynghori ar gynlluniau i greu un Ysgol Sengl Gatholig 3 - 16 oed a fydd yn caniatáu ‘pontio di-dor’ o’r blynyddoedd cynnar i lefel TGAU ar un safle modern.

Mae’r awdurdod wedi dechrau ar ymgynghoriad chwe wythnos o hyd i gau Ysgol Gatholig Sant Aloysius, Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Catholig Illtyd Sant a’r Santes Fair ac Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob Hedley er mwyn creu un ysgol ffydd, sengl.

Bydd unrhyw benderfyniad a fydd yn cael ei wneud i fwrw ymlaen â’r argymhelliad yn cael ei wneud ar y cyd gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol ac Archesgobaeth Caerdydd. Mewn cyflwyniad i’r ddogfen ymgynghorol, dywed Archesgob Caerdydd, y Gwir Barchedig George Stack ei fod yn ymwybodol o’r angen i ysgolion gydweithio’n agosach ac y byddai’r ddarpariaeth newydd yn caniatáu pontio di-dor o’r blynyddoedd cynnar i lefel TGAU.

“Bydd yn ein rhoi mewn man delfrydol i ddarparu’r cwricwlwm newydd gan gynnig manteision taith addysgol ddi-dor i’n plant,” ychwanegodd. “Bydd yn ein caniatau i adeiladu ar yr addysg dda sydd eisoes yn cael ei gynnig gan yr ysgolion a hynny ar un safle modern,” ychwanegodd.

Mae swyddogion o’r Cyngor a swyddogion o’r Archesgobaeth wedi bod yn cynnal cyfarfodydd ar ddyfodol addysg Gatholig ym Merthyr Tudful ers 2015. O ganlyniad, daethpwyd i’r casgliad fod angen ymdrin â rhai materion er mwyn cyflawni cynaliadwyedd hirdymor, gan gynnwys yr angen i “wella’r amgylchedd dysgu gan sicrhau fod arweiniad gwych ar draws y sector.”

Yn y ddogfen ymgynghorol, dywed Sue Walker, y Prif Swyddog ar gyfer Dysgu fod y Cyngor wedi derbyn yr angen i foderneiddio’r ddarpariaeth addysgol ac na fyddai gwelliant yn gynaliadwy heb newidiadau i’r ddarpariaeth bresennol.

Y farn oedd y byddai creu un ysgol sengl ar gyfer 3 – 16 oed yn:

• darparu rhagor o gyfleoedd i’r staff dysgu allu datblygu’n broffesiynol

• darparu cwricwlwm ehangach a mwy amrywiol

• gwella ystod ac ansawdd cyfleusterau ac adnoddau dysgu

• ehangu amrywiaeth gweithgareddau allgyrsiol a gweithgareddau y tu allan i’r ysgol

• caniatau arbedion ariannol posib o ran strwythurau staffio a phrynu gwasanaethau

Byddai gan yr ysgol newydd hyd at 525 o leoedd ysgol gynradd llawn amser, 63 o leoedd meithrin llawn amser a 520 o leoedd ysgol uwchradd.

Byddai unrhyw ddarpariaeth yn cael ei chynllunio mewn partneriaeth ag Archesgobaeth Caerdydd a fyddai’n gyfrifol am weithrediad yr ysgol.

Bydd y cyfnod ymgynghorol yn cael ei gynnal rhwng Dydd Llun 29 Ebrill 2019 a 30 Mehefin 2019. Mae’n rhoi cyfle i breswylwyr ddysgu rhagor am gynlluniau cyfuno a chyflwyno eu safbwyntiau a fydd yn cael eu hystyried pan fydd y Cyngor yn penderfynu sut dylid bwrw ymlaen. Bydd dyddiadau’r digwyddiadau galw i mewn yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni