Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cynllun Cyflogadwyedd y Cyngor yn cyrraedd rownd derfynol gwobrau cenedlaethol
- Categorïau : Press Release
- 08 Maw 2023

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi cyrraedd rownd derfynol rhaglen gwobrau cenedlaethol y sector gyhoeddus, yn sgil cynllun dyfeisgar i gynorthwyo pobl ifanc sydd wedi profi rhwystrau i fyd gwaith.
Yn ystod 2021-2022, cynorthwyodd Cynllun Llwybr Gwaith y Cyngor 63 o bobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal. Sicrhaodd 16 ohonynt gyflogaeth, aeth 12 ohonynt ymlaen i addysg bellach, sicrhaodd 3 brentisiaethau â’r awdurdod lleol ac enillodd 2 brentisiaethau ag EE.
Bydd aelodau o Dîm Cyflogaeth a Gwasanaethau Plant y Cyngor yn Llundain heno (8 Mawrth) er mwyn mynychu Gwobrau Trawsffurfio Sector Gyhoeddus iESE 2023 wedi iddynt lwyddo i gyrraedd y tri olaf yn y categori Ffocws Cwsmeriaid.
Dyfarnir y wobr am ‘wasanaeth cwsmeriaid gwych’ ac mae’r Cyngor wedi cyrraedd y rhestr fer ar y cyd â dau gynllun dyfeisgar arall a oedd ymhlith y 260 enwebiad o 76 sefydliad yn y sector gyhoeddus, ledled y DU a thramor.
Mae Llwybrau i Waith yn cefnogi’r sawl sydd yn gadael yr ysgol drwy gynnig cyngor gyrfaol, mynediad i gyflogaeth, rhaglenni hyfforddi a chynlluniau prentisiaeth yn y Cyngor a thrwy rwydweithiau busnesau preifat a diwydiant, mae’n cynnig addysg, gwaith, hyfforddiant a chymorth i fynychu coleg neu brifysgol.
Mae’r cyngor hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag EE ar gynllun peilot, ‘Seren y Dyfodol’ ar gyfer pobl ifanc sydd rhwng 14 ac 16 oed ac sydd wedi bod mewn gofal.
Mae’r cynllun yn cynorthwyo pobl ifanc â gwaith cartref, profiad gwaith a gweithgareddau chwaraeon o’u dewis hwy a hynny am gyfnod o ddwy flynedd. Maent yn sicr o dderbyn prentisiaeth EE os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Fel rhan o’r cynllun, mae cynllun Marchnad Lafur Ganolradd y Cyngor (ILM) sydd yn lleoliad gwaith, cyflogedig, chwe mis o hyd wedi cynnig lle ar gyfer tri pherson ifanc mewn swyddi gwahanol yn CBSMT.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Geraint Thomas: “Mae Cynllun Llwybrau Gwaith y Cyngor yn gynllun cydweithredol rhwng Gwasanaethau Plant a thimau Cyflogadwyedd.
“Mae gennym nifer o astudiaethau achos llwyddiannus lle y mae pobl ifanc sydd wedi profi rhwystrau sylweddol i gyflogaeth wedi derbyn cefnogaeth a hyfforddiant neu wedi cyfnod hir heb ymgysylltu wedi ymgysylltu â’r gwasanaethau er mwyn bod yn barod ar gyfer y gweithle.
“Rydym yn hynod falch fod ein cynllun Llwybrau i Waith yn cael ei gydnabod, yn genedlaethol am ei gyflawniadau. Mae’n gydnabyddiaeth deilwng o waith caled y tîm sydd wedi rhoi cyfle i bobl ifanc sydd o dan anfantais i lwyddo mewn bywyd.”
• Mae iESE yn sefydliad nid er elw sydd wedi ei greu gan awdurdodau lleol fel adnodd a rennir i drawsffurfio gwasanaethau cyhoeddus a chynnal profiad yn y sector.