Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor yn cynnal digwyddiad ymgynghori am y cynlluniau ar gyfer safle’r hen orsaf fysiau
- Categorïau : Press Release
- 11 Medi 2021

Mae’r Cyngor am gynnal dau ddigwyddiad ymgynghori cyhoeddus i ofyn i breswylwyr am eu barn am gynlluniau ar gyfer safle’r hen orsaf fysiau ym Maes y Clastir.
Bydd y sesiynau’n digwydd y tu allan i hen siop H Samuel yng Nghanolfan Siopa Santes Tudful ddydd Mawrth nesaf, 14 Medi, a dydd Mercher nesaf, 15 Medi, o 10am tan 4pm.
Mae cynigion ar gyfer y safle’n cynnwys y posibilrwydd o’i droi’n barc, gyda marchnad stryd, stondinau bwyd a diod parhaol, ardaloedd chwarae i blant a gwagle cymunedol aml-ddefnydd.
Bydd swyddogion y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn y digwyddiadau ymgynghori i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych, a bydd cyfle i chi gwblhau’r arolwg ar-lein neu ddefnyddio fersiwn bapur os fyddai’n well gennych.
I gymryd rhan yn yr holiadur, ewch i https://bit.ly/3nqCGh4