Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor yn lansio app ar gyfer taliadau parcio
- Categorïau : Press Release
- 11 Tach 2021
Mae parcio ym Merthyr Tudful bellach yn haws yn dilyn lansiad yr app sy'n cymryd taliadau heb ffioedd trafodion ac yn helpu modurwyr i ddod o hyd i fannau parcio cyn iddynt adael y tŷ.
Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gweithio mewn partneriaeth â chwmni taliadau parcio, symudol PayByPhone er mwyn cynnig parcio heb arian mewn 989 o fannau parcio mewn 10 maes parcio oddi ar y stryd.
Mae’r app PayByPhone yn cynnwys Mapiau sydd yn caniatáu gyrwyr i ddod o hyd i fan parcio cyn iddynt gyrraedd eu cyrchfan. Gallant hefyd ddynodi lleoliad eu cerbyd ar y map ar ôl iddynt barcio felly does dim fodd i chi anghofio ble mae’ch car!
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Barry, Aelod o’r Cabinet sydd â Phortffolio ar gyfer Llywodraethu a Gwasanaeth Corfforaethol: ”Rydym yn falch i allu cynnig opsiwn parcio diogel a hawdd heb arian i’n preswylwyr.
“Mae nifer o gynghorau Cymru yn awr yn defnyddio PayByPhone, sydd hefyd yn cynnig rhagor o hyblygrwydd i yrwyr ac yn eu galluogi i ymestyn eu sesiynau parcio o le bynnag y maent heb orfod poeni am ruthro yn ôl i dalu.”
Dywedodd Adam Dolphin, Cyfarwyddwr Gwerthiant PayByPhone UK: “Mae gan bobl fywydau prysur ac mae’r app yn gwneud pethau’n haws – mae cofrestru’n cymryd llai na 30 eiliad.”
Gellir lawr-lwytho app PayByPhone o’r App Store neu ar Google Play Store.