Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae Arweinydd y Cyngor wedi siarad yn erbyn y cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ceir ym Merthyr Tudful:

  • Categorïau : Press Release
  • 26 Medi 2022
default.jpg

Mae Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Geraint Thomas, wedi siarad yn erbyn y cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â cheir ym Merthyr Tudful:

Mae tensiynau cymunedol yn cynyddu yn dilyn digwyddiad trasig yr wythnos diwethaf pan gollon ni aelod gwerthfawr o’n cymuned. Ar fy rhan i a’r Cyngor mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda theulu a ffrindiau Cath ar yr amser trist iawn hwn.

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol ceir ym Merthyr Tudful wedi gwaethygu a rhaid atal hyn ar unwaith. Rwyf wedi gofyn ar frys am gadarnhad gan yr heddlu ynghylch beth yw eu strategaeth i atal hyn cyn inni weld digwyddiad angheuol arall.

Trwy ein teledu cylch cyfyng mae pob achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei adrodd yn syth i'r heddlu, fodd bynnag, mae cyfreithiau'n parhau i gael eu torri. Rydym yn dibynnu ar ein Heddlu i orfodi’r gyfraith, felly, fel Arweinydd y Cyngor byddaf yn ysgrifennu heddiw at Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, i ymateb ar unwaith i’n cais brys i gadw ein trigolion yn ddiogel.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni