Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor yn parhau gyda’r cynlluniau diogelwch ffordd ar gyfer ysgolion
- Categorïau : Press Release
- 04 Awst 2022

Mae’r Cyngor yn parhau gyda'i chynlluniau o wneud newidiadau mewn diogelwch y ffordd ger dwy ysgol gynradd yn dilyn cytundeb oddi wrth breswylwyr lleol.
Roedd pryderon wedi codi am ddiogelwch yn Ysgolion Cynradd y Santes Fair a Chaedraw oherwydd y niferoedd ceir yn parcio ar y pafin ar ffordd gyda chyfyngiadau mynediad yn unig.
Yn yr argymhellion i greu gwell amgylchedd ar y briffordd cynigwyd lôn seiclo ‘ar y ffordd’, gwahardd aros, llwytho a dadlwytho ar unrhyw adeg ac ychwanegu arwyddion ‘ysgol cadwch yn glir’, a chadw'r mannau parcio ar gyfer tacsis.
Gofynnwyd i breswylwyr Ffordd Caedraw gymryd rhan mewn arolwg am y cynlluniau, ac roedd mwyafrif llethol yr ymatebion o blaid y cynllun.
Bydd y cynllun manwl yn cael ei gwblhau yn yr wythnosau nesaf, gan ymateb i’r sylwadau a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Ar ôl cwblhau'r broses statudol, byddwn yn disgwyl cychwyn y gwaith ar y safle ym mis Ionawr 2023.
Mae grant am y gwaith wedi ei dderbyn oddi wrth Gronfa Teithio Lesol Llywodraeth Cymru, gyda’r bwriad o wella’r cyfleusterau ar gyfer cerddwyr, seiclwyr a gwella’r amgylchedd i breswylwyr.
Os oes unrhyw sylwadau pellach gennych, e-bostiwch active.travel@merthyr.gov.uk erbyn dydd Llun Awst 8,2022.