Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor yn prynu Canolfan Siopa y Santes Tudful
- Categorïau : Press Release
- 21 Rhag 2021

Mae canolfan siopa dan do Merthyr Tudful wedi cael ei brynu gan y Cyngor Bwrdeistref Sirol gyda’r bwriad iddo chwarae rhan allweddol yng nghynlluniau 15- mlynedd ganol y dref.
Cafodd y Ganolfan i gerddwyr sy’n rhannol dan do ei hadeiladu yn 1970 ac yn 1993 fe’i hadnewyddwyd ac mae’n cynnwys dros 50 o siopau gan gynnwys manwerthwyr cenedlaethol a busnesau annibynnol. Mae hefyd dros 30 stondin yn y farchnad dan do ar y llawr cyntaf.
Perchnogion Canolfan siopa Santes Tudful oedd y cwmni buddsoddi eiddo Almaeneg Patrizia, ond bellach y Cyngor fydd cyflogwyr y tri aelod staff rheoli.
“Rydym yn gyffrous iawn o fod wedi prynu Canolfan Siopa'r Santes Tudful”, meddai’r Cyng Geraint Thomas yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Trawsnewid a Masnacheiddio.
“Dyma galon canol y dref, rhwng yr hen ar orsaf fysiau newydd sydd hefyd yn eiddo i’r Cyngort. Mae cael yr holl safle yn golygu bod potensial sylweddol ar gyfer ail-ddatblygu ac mae'n ganolog i holl gynlluniau adfywio canol y dref.”
Mae’r Cynllun yn rhagweld y bydd cartrefi, swyddfeydd, manwerthu, sgwariau , ardaloedd natur ac ardal glan yr afon fywiog erbyn 2035. Y bwriad yw creu ‘strydoedd byw, sgwariau a llwybrau sy’n cynnig croeso, sy’n ddiogel ac yn ysbrydoli’.
Mae’r cynllun yn nodi'r angen i adfywio canol y dref ac yn cyfeirio at gyfleoedd i amrywio'r defnydd manwerthu a hamdden ar y Stryd Fawr a Chanolfan Siopa'r Santes Tudful.
“Mae bod yn Berchennog ar y ganolfan siopa yn ehangu ar y potensial ar gyfer gwella Merthyr Tudful a gwella gwneuthuriad dinesig canol y dref ar draws sawl sector”, ychwanegodd y Cllr Thomas.
“Yn y tymor agos byddwn yn parhau i weithio gyda’r tenantiaid presennol tra hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid a’r gymuned i ddatblygu cynlluniau adfywio ar gyfer y dyfodol.”