Ar-lein, Mae'n arbed amser

Staff y Cyngor yn dilyn sgiliau Cymraeg lefel uwch yn Nant Gwrtheyrn

  • Categorïau : Press Release , Council , Corporate
  • 26 Mai 2022
IMG-20220522-WA0010

Yn ddiweddar, cafodd pum aelod o staff y Cyngor y cyfle gwych i wella ei sgiliau Cymraeg ymhellach gyda’r tiwtor  Rhian Lloyd James o Ddysgu Cymraeg Morgannwg.

Treuliodd y pum wythnos Mai 16-20 yn Nant Gwrtheyrn ar gwrs preswyl er mwyn dysgu ac ymarfer eu Cymraeg. Maent wedi bod yn dysgu ers 2016, a hon oedd y cam nesaf ar eu taith o ddatblygu sgiliau Cymraeg uwch fel eu bod yn gallu cefnogi'r gymuned Gymraeg ar hyd Merthyr Tudful.

Yr aelodau staff a fynychodd y cwrs unigryw hwn oedd Mark Price, Susanne Powell, Lynsey Jones, Linda Clifford, a Rhiannon Evans. Rhoddodd gyfle gwerthfawr iddynt siarad, ysgrifennu ac ymarfer eu Cymraeg sy’n cefnogi gweithredu Safonau’r Gymraeg o fewn y Cyngor. 

Dwedodd Lynsey Jones un o’r dysgwyr a fynychodd y cwrs yr wythnos diwethaf “ Yr wythnos diwethaf cafodd ein dosbarth Cymraeg yn y Gweithle'r cyfle i fynd I Ogledd Cymru ac aros yn y Ganolfan Ddysgu’r Gymraeg yn Nant Gwrtheyrn er mwyn gwella ein Cymraeg. Roeddem yn ffodus iawn bod y cwrs wedi ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a chyllidwyd ein harhosiad gan GBSMT. Yn ystod yr wythnos, cawsom wersi Cymraeg, cymryd rhan mewn gweithgareddau a chyfarfod dysgwyr o ar draws Cymru. Roedd popeth trwy gyfrwng y Gymraeg, rhywbeth nad oeddem yn credu y gallem ei gwneud wrth gamau trwy ddrws y dosbarth yn y Ganolfan Ddinesig ychydig flynyddoedd yn ôl. Ers dod yn ôl o Nant Gwrtheyrn, rydym oll yn cytuno bod ein hyder wedi cynyddu, rhywbeth a oedd wir ei angen ar ôl y cyfnod clo. Rydym yn siarad mwy o Gymraeg gyda’n gilydd, rydym yn meddwl fwy yn Gymraeg ac mae rhai hyd yn oed yn ystyried gwneud cais am swyddi mewn lleoliadau Cymraeg”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni