Ar-lein, Mae'n arbed amser

Datganiad y Cyngor ar gyllideb 2024/25

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Maw 2024
Council Tax revised

Mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn heno, dydd Mercher 6ed o Fawrth 2024, cymeradwywyd cyllideb y Cyngor ar gyfer 2024/25.

Fel pob awdurdod lleol arall ledled Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi wynebu her enfawr dros y misoedd diwethaf wrth geisio cydbwyso ei gyllideb. Gyda'r her sylweddol hon rydym wedi ymdrechu i ddiogelu cymaint o wasanaethau â phosibl, yn enwedig Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd ac mae angen £9.4m mewn effeithlonrwydd a thoriadau, yn ogystal â chynnydd o 8% yn Nhreth y Cyngor, er mwyn mynd i'r afael â'r bwlch ariannol o £12.5m. 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Geraint Thomas: "Rydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein preswylwyr, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw presennol lle mae pawb yn teimlo'r esgid yn gwasgu, fodd bynnag, rydym wedi defnyddio pob opsiwn ac nid oes dewis arall.

"Bydd y toriadau hyn, a chynnydd yn y Dreth Gyngor, a fydd yn cynhyrchu incwm o £2.24m, yw'r unig ffordd i greu balans erbyn Mawrth 11eg, fel sy'n ofynnol yn gyfreithiol.

"Mae awdurdodau lleol eraill Cymru wedi gorfod edrych ar godiadau hyd yn oed yn uwch - rhai mor uchel â 16-20% - i gau'r bwlch cyllido.

"Mae preswylwyr wedi chwarae rhan hanfodol wrth lywio'r penderfyniadau hyn, gyda 60% o'r rhai a ymatebodd i'n hymgynghoriad diweddar ar y gyllideb yn cytuno i gynnal cymaint o wasanaethau â phosibl ar y lefel bresennol, hyd yn oed os oedd yn golygu cynnydd rhesymol yn Nhreth y Cyngor. Yn ogystal â hyn, rydym wedi derbyn adborth gan amrywiaeth o gyfarfodydd craffu, sydd wedi cynnwys aelodau etholedig o bob plaid.

“Rwy’n parchu safbwynt pob Cynghorydd ac yn gwerthfawrogi bod hwn wedi bod yn benderfyniad annodd i bawb, fodd bynnag mae dyletswydd statudol arnom fel aelodau i osod cyllideb gyfreithiol gytbwys.

"Byddwn yn parhau i wynebu heriau ariannol oni bai ein bod yn gweld setliadau ariannol mwy sylweddol i awdurdodau lleol.

"Rwyf am roi sicrwydd i breswylwyr y byddwn yn parhau i ymdrechu i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o wynebu'r heriau hyn yn y dyfodol."

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni