Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor yn annog preswylwyr i ymateb i ymgynghoriad GDMAC canol y dref
- Categorïau : Press Release
- 24 Chw 2022

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gofyn i breswylwyr ymateb i’r ymgynghoriad ar gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMAC) i rwystro yfed alcohol a chymryd cyffuriau ym mharth gwaharddedig canol y dref.
Agorodd yr ymgynghoriad ym mis Rhagfyr ac mae’n para tan Fawrth 10 2022, ac mae’r Cyngor yn awyddus i ystyried barn pobl cyn gweithredu’r Gorchymyn erbyn yr haf.
Bydd y Gorchymyn yn galluogi'r heddlu a swyddogion gorfodi'r Cyngor I gyflwyno dirwy cosb orfodol o £100, gallai methu talu’r ddirwy olygu erlyniad a dirwy llys hyd at £1,000.
“Mae digon o sylw wedi bod ar y gwefannau cymdeithasol am y cynnig,” meddai'r Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas.
“Yn anffodus, allwn ni ddim defnyddio'r ymatebion hyn wrth fynd ag ymatebion yn ôl at y Cyngor am benderfyniad, felly byddwn yn annog y cyhoedd i gwblhau'r arolwg ar-lein er mwyn mesur barn gywir y cyhoedd.”
Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg.