Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cyngor yn ennill gwobr adeiladu genedlaethol bwysig am waith ar brosiect y gyfnewidfa fysiau
- Categorïau : Press Release
- 30 Medi 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ennill gwobr genedlaethol bwysig am ‘gydweithio a chydweledigaeth’ ar eu gwaith yn adeiladu’r gyfnewidfa fysiau newydd.
Y Cyngor oedd y cyntaf i dderbyn gwobr Cleient y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB) yn Llundain.
Y CIOB yw corff proffesiynol mwyaf y byd ar gyfer rheolaeth adeiladu ac arweinyddiaeth ac mae’r Siarter Brenhinol yn hybu gwyddoniaeth ac ymarfer adeiladu sydd ‘er budd y gymdeithas.’
Roedd y Cyngor yn cystadlu yn erbyn amrywiaeth o brosiectau cryf yn y byd masnachol, chwaraeon, hamdden ac addysg - gan gynnwys y cwmni fferyllol AstraZeneca a Phrifysgol Wolverhampton.
Dywedodd Caroline Gumble, Prif Weithredwr CIOB: “Roedd safon y cystadleuwyr yn uchel iawn ac roeddwn wedi fy syfrdanu gan safon y sawl a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Llongyfarchiadau mawr i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, enillwyr cyntaf erioed gwobr Cleient y Flwyddyn.”
Dywedodd Ms Gumble fod y Cyngor, sef cleient Morgan Sindall a thîm cynllunio Capita yn meddu ar weledigaeth o adnodd modern a hyb trafnidiaeth o’r safon uchaf a oedd ‘yn aros allan.’
Dywedodd fod y tîm wedi syfrdanu’r beirniaid ag enghreifftiau o gydweithio a chydweledigaeth a bod ‘ychwanegiad trydaneiddio trafnidiaeth gyhoeddus a chomisiynu cerbydau allyriadau isel yn hanes yn ei hun.’
Ariannwyd y cynllun gan Lywodraeth Cymru a dyma hyb trafnidiaeth trydan llawn, cyntaf Cymru sydd yn caniatáu gwefru cerbydau trydanol ar y safle. Ni wneir unrhyw ddefnydd o nwy na thanwydd ffosil a defnyddir tanc dŵr glaw ar gyfer y toiledau. Mae holl drydan a dŵr cynnes yr adeilad wedi’u pweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy sydd yn lleihau’r effaith carbon ar gyfer yr holl adeilad.
Cyrhaeddodd yr adeilad restr fer tair gwobr genedlaethol arall ar gyfer ‘Cynaliadwyedd’ ac ar gyfer y ‘Cleient Gorau,’ yng Ngwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Cymru 2021 ac yng Ngwobrau’r RTPI (Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru) ar gyfer Rhagoriaeth mewn Cynllunio 2021.
Enwebwyd y Cyngor am wobr y CIOB gan Ross Williams, Rheolwr Prosiect Morgan Sindall a dywedodd “Roeddwn wrth fy modd i glywed enw Merthyr Tudful yn cael ei alw allan fel enillydd y wobr bwysig hon. Roedd yn wych gweld Merthyr Tudful yn derbyn sylw, ledled y DU.
Mabwysiadodd y Cyngor ddull unigryw o weithio o ran gweithio ar y cyd a rheoli’r prosiect hwn ar gyfer y gyfnewidfa newydd. Roedd wir yn wych ac o achos hyn, roedd rhaid i mi enwebu’r Cyngor ar gyfer gwobr Cleient y Flwyddyn.”
Cafodd y dyfarniad ei dderbyn gan Alun Evans, Rheolwr Rhaglen Seilwaith Strategol y Cyngor, Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lisa Mytton a’r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Geraint Thomas.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio, Trawsffurfio a Masnacheiddio: “Rydym yn falch iawn o’r gyfnewidfa fysiau ac o’r cyflawniad gwych hwn sydd yn haeddiannol iawn ac sydd yn cydnabod ein Tîm Adfywio a’r contractwyr a oedd yn gweithio mewn partneriaeth trwy gydol y prosiect.”