Ar-lein, Mae'n arbed amser
Penodi y Cynghorydd David Isaac yn Faer Merthyr Tudful 2026/2027
- Categorïau : Press Release
- 14 Mai 2026
Etholwyd y Cynghorydd David Isaac yn Faer Merthyr Tudful yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ddydd Mercher 13 Mai 2026, gan gymryd yr awenau oddi wrth y cyn-Faer, y Cynghorydd Paula Layton, fel Dinesydd Cyntaf y Fwrdeistref Sirol.
Gŵr i Deborah a thad i Brennig, Rhys, Caitlin, Dafydd a Ffion; Mae David wedi bod yn gynghorydd ward Penydarren ers 2012, a chyn hynny roedd yn Faer yn ystod 2015-2016.
Mynychodd David Ysgol Gynradd Gwaunfarren ac yna Ysgol Gyfun Pen y Dre. Aeth ymlaen i ddechrau gyrfa hir, amrywiol a llwyddiannus gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans, y mae bellach wedi ymddeol ohono.
Dywedodd David: "Hoffwn longyfarch y Cynghorydd Paula Layton a'i Chymor, y Cynghorydd Declan Sammon, ar yr hyn sydd wedi bod yn flwyddyn wirioneddol lwyddiannus yn y swydd.
"Mae Paula wedi gosod safon uchel, yn enwedig yn ei hymdrechion codi arian, gyda nosweithiau cwis yn profi'n arbennig o boblogaidd. Rwy'n bwriadu dilyn ei harweiniad.
"Diolch yn fawr iawn i'm teulu, fy ngwraig Deborah a fy mhlant Brennig, Rhys, Caitlin, Dafydd a Ffion am eu cefnogaeth barhaus.
"Edrychaf ymlaen at y flwyddyn i ddod ac at wasanaethu pobl Merthyr Tudful hyd eithaf fy ngallu, gydag ymroddiad, uniondeb a balchder."
Bydd dyletswyddau'r Maer newydd yn cynnwys cadeirio cyfarfodydd cyngor llawn a chynrychioli'r awdurdod mewn achlysuron ffurfiol a seremonïol ledled y fwrdeistref sirol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd hefyd yn croesawu ymwelwyr i Ferthyr Tudful ac yn mynychu ac yn cefnogi digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol.
Mae David wedi dewis cefnogi dwy elusen leol:
Mae Hope Rescue yn elusen leol sy'n gyfrifol am yr holl gŵn strae yn ein Bwrdeistref Sirol.
Mae Mind Merthyr Tudful yn darparu cymorth hanfodol ar gyfer iechyd meddwl a lles yn ein cymuned.
Y Dirprwy Faer ar gyfer y flwyddyn i ddod yw'r Cynghorydd Scott Thomas, aelod ward Dyffryn Merthyr.
Os hoffech wahodd y Maer i ddigwyddiad, neu gyfrannu at apêl y Maer, cysylltwch â mayoral@merthyr.gov.uk