Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Cynghorydd Malcolm Colbran, Maer Merthyr Tudful 2021 / 2022

  • Categorïau : Press Release , Council
  • 20 Mai 2021
DSC03781SmileV2

Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd Ddydd Mercher 19 Mai 2021, cafodd y Cynghorydd Malcolm Colbran ei ethol yn Faer ar gyfer blwyddyn y Cyngor yn 2021 – 2022.  Ei gydweddog fydd Nicola Bridges.

Mae Malcolm sydd yn byw ym Medlinog wedi cynrychioli Ward Etholaethol Bedlinog ers 2017.  

Fel Dinesydd Cyntaf Merthyr Tudful, bydd cyfrifoldebau’r Cynghorydd Collbran yn cynnwys cadeirio cyfarfodydd llawn o’r Cyngor a chynrychioli’r Cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a seremonïol, ledled y fwrdeistref sirol, yn rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd hefyd yn croesawu ymwelwyr i’r fwrdeistref sirol ac yn mynychu ac yn cefnogi digwyddiadau sydd wedi eu trefnu gan bobl a sefydliadau lleol.

Cafodd Malcolm ei fagu yn Hailsham, swydd Sussex, sy’n dref fewndirol, 8 milltir o  Eastbourne a bu’n byw am nifer o flynyddoedd mewn pentref bychan o’r enw Horam sydd yn enwog am seidr Merrydown. 

Yn 2003, prynodd Swyddfa’r Post ym Medlinog lle y derbyniodd groeso gan y gymuned leol ac efallai, ymhen rhyw 20 mlynedd mi fydd yn ystyried ei hun yn breswylydd lleol!  

Mae Malcolm yn cofio’r tro cyntaf iddo yrru i fyny’r cwm o Drelewis, heibio Stormtown a gweld Bedlinog, am y tro cyntaf yn y pellter, yn glynu’n dynn i ochr y mynydd. Mae’n cofio rhyfeddu ar yr olygfa a blynyddoedd yn ddiweddarach, mae’n parhau i gael yr un teimlad. Yn ôl Malcolm, mae ymdeimlad cryf o gymuned yn bodoli ym Medlinog ac ni all ddychmygu byw yn unman arall.  

Mae Malcolm wedi dewis dwy elusen i’w cefnogi yn ystod ei flwyddyn yn y swydd ac mae gan y ddwy cysylltiad agos ag ef, sef 2 Wish Upon A Star a #4Tom.

Mae’n anodd dychmygu dim byd mwy dinistriol na cholli plentyn ac mae teuluoedd yn derbyn cymorth anhygoel gan yr elusen 2 Wish Upon A Star, sydd y cynnig cymorth yn syth ac yn barhaol i deuluoedd, unigolion ac ymarferwyr proffesiynol sydd mewn profedigaeth ac sydd wedi eu heffeithio gan farwolaeth sydyn a thrawmatig plentyn neu oedolyn ifanc sydd o dan 25 oed.

Derbyniodd teulu Tom Smerdon gefnogaeth gan 2 Wish Upon A Star. Ym mis Mawrth  2019, ac yntau ond yn 22 oed, cyflawnodd Tom hunanladdiad. Hunanladdiad yw prif achos marwolaethau mewn dynion sydd yn iau na 45 oed ac yn aml, ni fydd unrhyw arwyddion i ddynodi fod rhywun yn ei chael hi’n anodd. Mae teulu Tom wedi sefydlu elusen, er cof am Tom; #4Tom, i godi ymwybyddiaeth am faterion sydd yn ymwneud ag iechyd meddwl mewn oedolion ifanc ac osgoi hunanladdiad. Mae’r gwaith hwn hyd yn oed yn fwy pwysig yn awr, yn dilyn 15 mis o gyfyngiadau ac mae mwy a mwy o bobl ifanc yn cyrchu cymorth iechyd meddwl.

Y Dirprwy Faer ar gyfer 2021/22 yw’r Cynghorydd Declan Sammon, Cynghorydd Ward ar gyfer Dowlais. 

Os hoffech wahodd y Maer i ddigwyddiad, cysylltwch â mayoral@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni