Ar-lein, Mae'n arbed amser

Y Cynghorydd Paula Layton, Maer Merthyr Tudful 2025/2026

  • Categorïau : Press Release
  • 15 Mai 2025
9512D666-7F09-40FD-BEEC-1915667F1715

Etholwyd y Cynghorydd Paula Layton yn Faer i Ferthyr Tudful yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ddydd Mercher y 14eg Mai 2025, gan gymryd yr awenau oddi ar y Maer diwethaf, Y Cynghorydd John Thomas, yn Ddinesydd Cyntaf y Fwrdeistref Sirol.

Mae hi’n bartner i’r Cynghorydd Declan Sammon ers 20 mlynedd ac yn ddiweddar daeth yn wraig iddo. Mae hi’n fam i Louise, yn fam yng nghyfraith i Marc, ac yn fam-gu i Jack ac Emelia. Ganed a magwyd Paula ym Merthyr Tudful.

Mewn rôl flaenorol bu Paula’n Reolwraig Gwasanaeth Cwsmeriaid i T-Mobile, yna amlygwyd ei doniau coginio pan gafodd hi swydd yn Ben-cogydd yn Stables View, Dowlais, bwyty llwyddiannus a reolwyd ganddi hi a Declan.

Mae Paula wedi bod yn Gynghorydd i ward etholiadol Dowlais a Phant ers 2022, ac o fewn hynny bu’n aelod gweithgar o bwyllgor Gwasanaethau’r Gymdogaeth, Cefn Gwlad a Chynllunio, y Cydbwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Tipio Anghyfreithlon. Meddai Paula “Merch o Ferthyr Tudful ydw i, wedi fy ngeni a’m magu yma, ac rwy’n ofnadwy o falch o fy ngwreiddiau.

“Mae’n golygu’r byd yn grwn i mi fod yn Faer yn rhywle sydd mor bwysig i mi.

“Byddaf yn gofalu’n dyner am y swyddogaeth hon a’r dyletswyddau a ddaw gyda’r penodiad, a byddaf yn gwneud fy nghorau glas i gynrychioli trigolion Merthyr Tudful.”

Cydweddog Paula ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol 2025/26 fydd ei gŵr, Declan Sammon.

O fewn ei rôl yn gynghorydd yn ei hannwyl Dowlais a Phant, mae Paula’n weithredol o fewn nifer o grwpiau cymunedol megis Active Kids, Grŵp Gweithredol Cymunedol Dowlais ac mae hi’n aml yn cymryd rhan mewn digwyddiadau casglu sbwriel. Mae hi hefyd yn gefnogol iawn o Becca’s Besties, grŵp llesiant lleol wedi ei gynnal gan fenywod i fenywod.

Bydd dyletswyddau’r Maer newydd yn cynnwys cadeirio cyfarfodydd y cyngor llawn a chynrychioli’r awdurdod ar achlysuron ffurfiol a seremonïol ledled y fwrdeistref sirol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd hefyd yn croesawu ymwelwyr i Ferthyr Tudful ac yn mynychu ac yn cefnogi digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol.

Mae Paula wedi dewis cefnogi dwy elusen leol:

Mae Cymorth Canser Macmillan Merthyr yn cynnig gwasanaethau amrywiol yn ardal Merthyr Tudful, gan gynnwys pwyllgor sy’n benodol ar gyfer codi arian a gwasanaeth budd-daliadau lles. Maent yn darparu gwybodaeth, cymorth a chyngor i unigolion y mae canser yn effeithio arnynt, eu teuluoedd, a gofalwyr.

Mae Central Beacons Mountain Rescue yn sefydliad gwirfoddol, wedi’i leoli yn Nowlais, sy’n gyfrifol am wasanaethu rhan Ganolog Bannau Brycheiniog gan gynnwys mynydd uchaf De Cymru, Pen y Fan sy’n 886m, Cribyn a Chorn Du yn ogystal â rhaeadrau Ystradfellte, Casnewydd, Caerdydd a’r cymoedd.

Y Dirprwy Faer am y flwyddyn nesaf yw'r Cynghorydd David Issac, a'i Gydweddog fydd ei wraig, Deborah.

Os hoffech wahodd y Maer i ddigwyddiad, neu gyfrannu at apêl y Maer, cysylltwch â mayoral@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni