Ar-lein, Mae'n arbed amser
Y Cynghorydd Paula Layton yn codi swm anhygoel o £21,000 ar gyfer elusennau lleol
- Categorïau : Press Release
- 13 Mai 2026
Mae heddiw (dydd Mercher, 13 Mai) yn nodi diwrnod olaf y Cynghorydd Paula Layton fel Maer Merthyr Tudful.
Yn ei blwyddyn fel Maer, mynychodd y Cynghorydd Layton dros 75 o ddigwyddiadau allanol a chroesawodd dros 600 o bobl i Barlwr y Maer, gan gynnwys gwirfoddolwyr lleol a sefydliadau elusennol.
Cododd y Cynghorydd Layton hefyd dros £21,000 i'w dwy elusen; Cymorth Canser Macmillan ac Achub Mynydd Merthyr a Chanol y Bannau.
Dywedodd y Cynghorydd Layton: "Mae eleni wedi bod yn llawn heriau annisgwyl, o chwerthin, a llawer iawn o ysbryd da. Diolch am yr atgofion ac am yr anrhydedd amlwg o ganiatáu i mi wasanaethu fel eich Maer."
Bydd y Cynghorydd David Isaac yn cael ei urddo fel Maer Merthyr Tudful yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y prynhawn yma.