Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cynghorau'n diolch i'r gweithwyr sy'n ymateb i danau gwyllt
- Categorïau : Press Release
- 13 Awst 2026
Mae arweinwyr cynghorau wedi diolch i ddiffoddwyr tân, gweithwyr cynghorau a sefydliadau partner sy’n gweithio i ddiogelu cymunedau rhag tanau gwyllt ledled Cymru yn ystod y dyddiau diwethaf.
Mae criwiau a staff awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â’r gwasanaethau brys a phartneriaid eraill mewn amodau heriol i ddod â’r tanau dan reolaeth, cefnogi’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt a chadw pobl yn ddiogel.
Mae cynghorau ac awdurdodau tân ac achub hefyd wedi darparu cydgymorth ar draws ffiniau lleol, gan helpu i sicrhau bod adnoddau a chymorth yn cyrraedd yr ardaloedd lle mae eu hangen fwyaf.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
“Mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan danau gwyllt ledled Cymru. Mae’r ymateb i gynifer o danau wedi bod yn ymdrech enfawr ar y cyd. Ar ran cynghorau ledled Cymru, hoffwn ddiolch i’n gwasanaethau tân ac achub, gweithwyr cynghorau, ffermwyr a phawb arall sydd wedi gweithio’n ddiflino i ddiogelu pobl, cartrefi a’n cefn gwlad.
“Mae’r amodau wedi bod yn anodd ac yn beryglus. Mae’r proffesiynoldeb a’r penderfynoldeb a ddangoswyd gan bawb sydd wedi bod yn rhan o’r ymateb wedi bod yn eithriadol, ac felly hefyd amynedd a chydweithrediad y cymunedau yr effeithiwyd arnynt.
“Nid yw’r perygl wedi mynd heibio, felly parhewch i fod yn arbennig o ofalus a dilynwch gyngor y gwasanaethau brys a’ch cyngor lleol.
“Peidiwch â chynnau tanau yng nghefn gwlad, defnyddio barbeciws tafladwy, na thaflu sigaréts, matsis na photeli gwydr.
“Os yw mwg yn effeithio ar eich ardal, arhoswch dan do lle bo modd a chadwch ffenestri a drysau ar gau. Dylai pobl â chyflyrau anadlol gadw unrhyw feddyginiaeth sydd ei hangen arnynt wrth law a cheisio cyngor meddygol os bydd eu symptomau’n gwaethygu.
“Cadwch draw o’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt, parchwch drefniadau cau ffyrdd a pheidiwch byth â hedfan dronau gerllaw digwyddiad. Dilynwch sianeli swyddogol eich cyngor a’r gwasanaethau brys i gael diweddariadau lleol dibynadwy, a ffoniwch 999 ar unwaith os gwelwch dân gwyllt.”