Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynghorau yn uno i gefnogi yn  Pride Cymru 2022

  • Categorïau : Press Release
  • 01 Medi 2022
IMG_20190824_111143

Dydd Sadwrn diwethaf, ymunodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gydag awdurdodau lleol cyfagos yn Ne Cymru I gefnogi'r gymuned LHTTQI+ a helpu hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Cymrodd yr awdurdod ran ym Mharêd Pride Cymru fel rhan o rwydwaith ‘Cynghorau Balch’, sef partneriaeth rhwng 10 awdurdod lleol yn 2015 gyda’r bwriad o wella y gefnogaeth ar gael I staff LHTTQI+ o fewn awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r rhwydwaith yn hyrwyddo cynhwysiad o fewn ein cymunedau ac yn anelu sicrhau bod llywodraeth leol yng Nghymru yn arwain ym maes hawliau LHTTQI+.

Teithiodd cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful I Gaerdydd ar gyfer y digwyddiad ynghyd â chydweithwyr o Rondda Cynon Taf, Pen-y-bont, Powys, Casnewydd, Abertawe, Caerffili, Torfaen, a Blaenau Gwent.

Ymunodd staff, cynghorwyr, a grwpiau cymunedol gyda channoedd o bobl a gorymdeithio trwy strydoedd Caerdydd gan ddangos ymrwymiad pob Cyngor a chefnogaeth at y gymuned LHTTQI+ yng Nghymru.

Dwedodd y Cyng. Gareth Richards, Eiriolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Cyngor, “Hoffwn I ddiolch i’r Cynghorwyr a Swyddogion a fynychodd Pride Cymru fel rhan o rwydwaith Cynghorau Balch. Roedd yn dda gweld Pride Cymru yn ei ôl ar ôl tair blynedd ac roedd yn edrych fel bod pawb wedi cael amser hwyliog a lliwgar gyda miloedd ar strydoedd y brifddinas. Mae Pride yn gyfle i ddathlu'r datblygiadau dros y degawdau diwethaf, mae llawer mwy i’w wneud  ac mae angen bod yn wyliadwrus i wneud yn siŵr nad ydy’r datblygiadau yn mynd am yn ôl.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni