Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cefnogaeth Gwnsela ar gael i drigolion Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 17 Chw 2025

Mae’r Gyfnewidfa wedi bod yn gweithio ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful er mwyn cefnogi iechyd meddwl a llesiant emosiynol plant a phobl ifainc Merthyr Tudful, a’u teuluoedd, ers wyth mlynedd.
Mae’r Gyfnewidfa’n darparu ystod eang o wasanaethau cefnogol yn cynnwys sesiynau cwnsela arbenigol un-i-un, rhaglenni llesiant grŵp, a gweithdai rhyngweithiol, a’r cyfan wedi eu cynllunio mewn modd sy’n ymateb i anghenion unigol plant a phobl ifainc. Yn ogystal â hyn, maent yn cynnig ap iechyd meddwl o’r enw D-EXY, sy’n llawn adnoddau a gwybodaeth werthfawr a gwasanaeth lle gallwch dderbyn cefnogaeth drwy sgwrsio ar-lein.
Eu bwriad yw darparu cefnogaeth therapiwtig sy’n addas ar gyfer oedrannau’r plant a’r bobl ifainc, er mwyn cynorthwyo unigolion i ganfod eu ffordd drwy’r heriau presennol ac i gynyddu eu gwytnwch ar gyfer y dyfodol.
Gall ysgolion, gwasanaethau, pobl ifainc a rhieni drefnu atgyfeiriadau unrhyw bryd drwy:
- Ffonio tîm cymorth i gliefion y Gyfnewidfa [03302 020 283]
- Sesiynau galw heibio gyda chynghorwyr
- Porth ar-lein [www.exchange-counselling.com]
- Yr ap D-EXY [www.d-exy.com]
Ers cychwyn ym Merthyr Tudful yn 2018, mae’r Gyfnewidfa wedi cefnogi dros 4,500 o blant, pobl ifainc a’u teuluoedd. Ar gyfartaledd mae 83% o’r sawl sydd wedi defnyddio’r gwasanaethau wedi dweud bod yno welliant i’w llesiant seicolegol ac i’w gwytnwch.
“Os gall fy helpu i, fe all helpu eraill hefyd.”
“Roedd gallu siarad gyda rhywun wir yn beth da.”
“Roedd yn ddefnyddiol ac roedd y cynghorydd yn llawn cydymdeimlad.”
“Trefnais fy apwyntiad fy hun drwy’r ap yr un un diwrnod”
Meddai’r Cynghorydd Jamie Scriven, Hyrwyddwr Iechyd Meddwl y Cyngor: “Mae cefnogi ein plant, ein pobl ifainc a’u teuluoedd gyda’u hiechyd meddwl a’u llesiant yn hynod o bwysig. Rydym am i bob un o’n trigolion deimlo bod gwasanaethau ar gael iddynt a bod cefnogaeth ganddynt”
“I mi, yn rhinwedd fy rôl yn Hyrwyddwr Iechyd Meddwl, mae’n bwysig ein bod ni’n pwysleisio bod y gwasanaeth hwn ar gael i ysgolion, plant a phobl ifainc a’u teuluoedd yn rhad ac am ddim. Rydym yn gofyn i chi ystyried cymryd mantais o’r adnoddau a’r gefnogaeth sydd ar gael gennym drwy’r Gyfnewidfa.”
Ychwanegodd Emma Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Pobl Ifainc a Theuluoedd: “Cynlluniwyd ein gwasanaethau gyda gofal a hyblygrwydd, er mwyn sicrhau bod gan bob unigolyn y gallu i gael gafael ar y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, pan fod angen. Rydym yn deall bod pob siwrnai’n unigryw, a dyna pam rydym yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n rhoi dewis i bobl ifainc a’r adnoddau a’r gefnogaeth sy’n eu galluogi i ffynni.”
“Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion a phartneriaid o fewn y gymuned er mwyn creu amgylchedd cynhwysfawr sy’n hawdd i bawb fynd ato. Ein bwriad yw sicrhau nad oes un plentyn na pherson ifanc yn wynebu eu heriau ar eu pennau eu hunain. Gyda’n gilydd gallwn greu dyfodol cryfach, gwytnach”