Ar-lein, Mae'n arbed amser
Nid yw Troseddau Nwyddau Ffug yn Talu: Carcharwyd Gwerthwr Wedi Ymchwiliad
- Categorïau : Press Release
- 13 Mai 2026
Ar y 7fed o Fai 2026 yn Llys y Goron Merthyr Tudful, dedfrydwyd Gemma Chinnery, 35 mlwydd oed, o Gefn Coed y Cymer, Merthyr Tudful - wedi iddi bledio’n euog i un trosedd ar hugain dan y Ddeddf Nodau Masnach mewn perthynas â gwerthiant a meddiant er mwyn gwerthu nwyddau ffug - wedi derbyn ddedfryd o garchariad tair blynedd ddi-oed am bob trosedd, gyda’r dedfrydau hyn yn cydredeg.
Dilynodd yr achos ymchwiliad gan Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, wedi iddynt sylwi bod tudalen Facebook ‘Gemma G’s Fashion Factory’ yn hysbysebu nwyddau ffug ar werth. Cadarnhawyd drwy’r ymholiadau bod Chinnery yn cynnal y dudalen ac yn cyflenwi dillad, esgidiau ac eitemau trydanol wedi eu labeli’n ffug yn ogystal â chwmnïau enwog yn cynnwys Apple, Nike, Tiffany & Co., Chanel a Luis Vuitton.
Datguddiodd swyddogion grŵp Telegram, ‘G’s Fashion’, a oedd wedi bod yn weithredol ers yr 21ain o Orffennaf 2022. Roedd y dudalen yn cynnwys dros 37,000 o luniau a 650 fideo, sy’n awgrymu lefel sylweddol o fasnachu.
Cyflawnodd Swyddogion Safonau Masnach warant yng nghartref Chinnery lle atafaelwyd nwyddau ffug, yn cynrychioli 28 math o gwmni cynllunio yn cynnwys Apple, Adidas, Nike Valenciaga, UGG a Calvin Klein.
Datgelodd ymchwiliadau ariannol bod Chinnery, rhwng y 1af o Ionawr 2022 a’r 30ain o Fedi 2023, wedi derbyn £116,045 drwy ei chyfrif banc yn gysylltiedig â gwerthiant nwyddau ffug. Amcangyfrifwyd y byddai pris adwerthol yr eitemau go iawn dros £1.9 miliwn.
Meddai Sarah King, Cyfarwyddwr Llywodraethiant ac Adnoddau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: “Hoffem atgoffa cwsmeriaid nad yw nwyddau ffug yn derbyn y gwiriadau diogelwch cywir ac efallai nad ydynt yn ddiogel. Byddwn yn parhau i weithredu yn erbyn y sawl sy’n gwerthu cynnyrch anghyfreithlon a byddwn yn gweithio i warchod ein cymunedau. Dylai’r ddedfryd hon fod yn rhybudd i’r bobl hynny sy’n ymwneud a’r mathau hyn o weithgareddau anghyfreithlon.”
Meddai’r Cynghorydd David Jones, yr Aelod Cabinet ar gyfer Safonau Masnach “Mae’r achos hwn yn pwysleisio’r gwaith a wneir gan yr Awdurdod i warchod busnesau cyfreithlon. Mae nwyddau ffug yn niweidiol i’n heconomi leol ac yn gosod busnesau sy’n gweithredu yn y ffordd gywir, dan anfantais. Mae gwaith ein tîm Safonau Masnach yn chwarae rhan hanfodol o warchod ein trigolion a chadw pethau’n deg, a byddem yn annog unrhyw un sy’n dod o hyd i nwyddau ffug roi gwybod i Safnoau Masnach amdanynt.”
Gallwch roi gwybod am werthiant nwyddau ffug drwy gysylltu â Safonau Masnach drwy anfon e-bost at tstandards@merthyr.gov.uk, neu drwy ffonio 01685 72500 neu gallwch adrodd yn anhysbys ar y wefan Crime Stoppers Online https://crimestoppers-uk.org neu drwy ffonio 0800 555 111.