Ar-lein, Mae'n arbed amser
Nwyddau ffug a atafaelwyd yn Safonau Masnach
- Categorïau : Press Release
- 19 Rhag 2025
Ar fore dydd Iau Rhagfyr 18fed 2025, cyflawnodd Safonau Masnach Merthyr Tudful, gyda chymorth Swyddogion Heddlu De Cymru, tri gwarant chwilio ar eiddo ym Merthyr Tudful mewn perthynas â gwerthu Nwyddau Ffug.
Atafaelwyd cannoedd o eitemau a oedd yn cynnwys dillad, esgidiau, colur, eitemau trydanol, oriorau, persawr a theganau sy'n dwyn Nodau Masnach Apple, Rolex, Nike, Prada, Canda Goose, Ugg, Moncler ac eraill gyda gwerth stryd o ddegau o filoedd o bunnoedd.
Atafaelwyd £8,000 mewn arian parod hefyd.
Cafodd dyn ei arestio fel rhan o'r ymchwiliad.
Dwedodd Declan Sammon, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd "Nid yw nwyddau ffug yn drosedd ddi-ddioddefwr – maent yn tanseilio busnesau cyfreithlon, yn rhoi defnyddwyr mewn perygl, ac yn aml yn ariannu gweithgarwch troseddol cyfundrefnol. Mae'r atafaeliad llwyddiannus hwn yn dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â throseddu ac amddiffyn y cyhoedd a masnachwyr gonest. Byddwn yn parhau i weithio'n ddiflino gyda'n partneriaid i sicrhau bod Merthyr Tudful yn parhau i fod yn lle diogel a theg i siopa a gwneud busnes ynddi."