Ar-lein, Mae'n arbed amser
Strategaeth Cyflenwad Dŵr Cwm Taf: Ymgynghoriad anstatudol: 10 Gorffennaf – 9 Medi 2024
- Categorïau : Press Release
- 11 Gor 2024

Yn Dŵr Cymru, un o’n prif flaenoriaethau yw darparu cyflenwad dŵr o’r radd flaenaf i’n cwsmeriaid yn uniongyrchol i’w tapiau. Er mwyn sicrhau y gallwn barhau i wneud hyn, mae angen i ni nawr fuddsoddi mewn gweithfeydd trin dŵr newydd a chadarn a chyfleusterau cysylltiedig yn ardal Merthyr Tudful.
Yn 2022, gwnaethom ymgynghori â’r gymuned leol a rhanddeiliaid ar gynigion cynnar i adeiladu un gwaith trin dŵr newydd ger Pontsarn. Ers hynny, rydym wedi bod yn adolygu’r cynlluniau hyn ac wedi datblygu cynigion amgen. Rydym yn y cyfnod cynnar o’r gwaith dylunio, ac rydym yn awr yn cynnal ymgynghoriad anstatudol i rannu’r cynigion cynnar hyn a chael adborth gan y gymuned leol.
Rydym am roi rhagor o fanylion i chi ar sut y gallwch weld y cynigion hyn, rhannu eich adborth a hefyd gysylltu â ni gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych.
Mae ein cynigion yn cynnwys:
- Uwchraddio gwaith trin dŵr presennol yn Llwyn-onn.
- Gwaith trin dŵr newydd ar dir ym Merthyr Tudful – Fferm Dan-y-Castell.
- Gorsaf bwmpio dŵr crai newydd ar ein gwaith trin dŵr presennol ym Mhontsticill.
- Piblinellau dŵr crai newydd neu wedi’u huwchraddio i gario dŵr o’r cronfeydd dŵr presennol i'r gwaith trin dŵr newydd.
- Pibellau dŵr wedi'i drin newydd neu wedi’u huwchraddio i gario dŵr wedi'i drin o'r gwaith trin dŵr newydd i'r rhwydwaith presennol ac ymlaen i gwsmeriaid.
Gweld ein cynigion ar-lein: www.dwrcymru.com/strategaethcwmtaf
Rydym wedi creu ystafell arddangos rithwir – ar gael o 10 Gorffennaf i weld ein cynigion a rhannu eich adborth. Yma fe welwch fap rhyngweithiol a fydd yn eich galluogi i weld manylion y cynnig arfaethedig, gan gynnwys cynllun a seilwaith cysylltiedig, megis piblinellau.
Yn bersonol: Gallwch fynychu un o'n harddangosfeydd personol a siarad ag aelod o'r tîm.
- 19 Gorffennaf – 10:30am-7:00pm: Clwb Golff Merthyr Tudful, CF48 2NT
- 20 Awst – 11:00am-6:00pm Sefydliad Gellideg, Y Ganolfan Llesiant, CF48 1ND
- 3 Medi – 2:00pm-7:00pm Clwb Pêl-droed Tref Merthyr, CF47 8RF
Cysylltu â ni: Os na allwch weld ein harddangosfa ar-lein neu fynychu un o'n digwyddiadau, cysylltwch â ni ar cwmtafproject@dwrcymru.com neu ffoniwch 0800 052 0130 i drafod ffyrdd eraill o weld ein cynigion.
Unwaith y byddwch wedi gweld y cynigion, byddem yn croesawu eich adborth. Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, mae croeso i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion uchod.
Ymgynghoriad anstatudol yw hwn ac fe'i cynlluniwyd i rannu â chi yr angen am y buddsoddiad, ein cynigion, a chael eich adborth ar y rhain cyn cynnal ymgynghoriad statudol, lle cewch gyfle eto i adolygu a rhoi sylwadau ar ein cynlluniau.
Yn gywir,
Ian Boothroyd
Pennaeth Cyflawni Rhaglenni Dŵr