Ar-lein, Mae'n arbed amser
Dathliad Pen-blwydd Castell Cyfarthfa yn llwyddiant ysgubol!
- Categorïau : Press Release
- 07 Gor 2025

Roedd y dathliadau Penwythnos Pen-blwydd diweddar yng Nghastell Cyfarthfa yn llwyddiant ysgubol, gyda'r gymuned yn dod at ei gilydd i nodi'r achlysur arbennig hwn mewn steil!
Roedd y penwythnos yn llawn amrywiaeth anhygoel o weithgareddau, gan gynnwys marchnad grefftau, sesiynau adrodd straeon, llwybrau chwilod, Stiwdio Bortreadau Fictoraidd ac amrywiaeth o weithgareddau crefft i ddiddanu pawb.
Cafodd y sawl sydd yn ymddiddori mewn hanes hefyd fwynhad yn gwrand ar sgyrsiau hanes a mwynhau mynediad am ddim i'r amgueddfa, gan gynnig cipolwg ar orffennol cyfoethog a diddorol y castell.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lewis, Aelod Cabinet dros Addysg a Diwylliant: "Rydym wrth ein bodd gyda'r nifer a fynychodd a'r egni anhygoel a lenwodd dir y castell. Cynlluniawyd y digwyddiad i fod yn brofiad cynhwysol a phleserus i bawb, ac mae'n amlwg bod y gymuned wedi mwynhau eu hunain yn fawr.
"Hoffwn hefyd fynegi fy niolch i'r holl aelodau staff ymroddedig sydd wedi gweithio'n ddiflino i wneud hyn i gyd yn bosibl, yn enwedig Nathan Roberts o Dîm yr Amgueddfa a gafodd y syniad cychwynnol ac a roddodd gymaint o amser ac ymdrech i drefnu'r digwyddiad; hyd yn oed aildrefnu popeth ar y funud olaf i ddarparu ar gyfer y tywydd nodweddiadol Cymreig.
"Nid yw eich gwaith caled a'ch ymrwymiad wedi mynd yn ddi-sylw. Diolch!"
Mae llwyddiant dathliadau'r Penwythnos Pen-blwydd yn dyst i bŵer ysbryd cymunedol a phwysigrwydd cadw ein treftadaeth ddiwylliannol.
Os gwnaethoch chi golli'r hwyl, peidiwch â phoeni - mae digon o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw golwg am fwy o ddiweddariadau gan Gastell Cyfarthfa.
Yn y cyfamser, beth am ddechrau cynllunio eich ymweliad nesaf a phrofi hud y safle hanesyddol anhygoel hwn? Gyda'i gyfuniad unigryw o hanes, diwylliant ac adloniant, Castell Cyfarthfa yw'r gyrchfan berffaith i deuluoedd, cyplau ac ymwelwyr unigol fel ei gilydd.
Gwefan: https://www.cyfarthfa.co.uk/