Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwobrwyo Ysgol Uwchradd Cyfarthfa am gefnogi plant y lluoedd arfog

  • Categorïau : Press Release , Education , Schools , Corporate
  • 30 Medi 2022
DSC01104

Mae Ysgol Uwchradd Cyfarthfa wedi ei llongyfarch am y gefnogaeth mae’n gynnig i ddisgyblion y mae ei rhieni yn gwasanaethu neu wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog Prydeinig.

Mae’r Ysgol wedi derbyn gwobr efydd Ysgolion Lluoedd Arfog Cyfeillgar (YLlAG) mewn cydnabyddiaeth o lefel y gefnogaeth a’r gweithgareddau a gynigir i ddisgyblion cymwys.

Dwedodd y Pennaeth Lyndon Brennan: “Rydym wrth ein bod di dderbyn y gydnabyddiaeth am waith diflino ein staff i gefnogi plant y lluoedd arfog. Ein bwriad yw cynnig amgylchedd positif i blant y lluoedd arfog a byddwn yn annog mwy o ysgolion i ymglymu mwy gyda’u cymuned Lluoedd Arfog.

“Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu'r rhaglen yn y flwyddyn i ddid trwy ddarparu ystod eang o weithgareddau a darpariaeth benodol wedi ei deilwra’n arbennig i’r grŵp yma o ddisgyblion yn ‘nheulu Cyfarthfa’.”

Mae tua 30 disgybl ar hyn o bryd yn rhan o’r cynllun, sy’n cael eu harwain gan aelodau o staff sydd wedi eu hyfforddi i ddeall y pwysau unigryw a’r anawsterau a wynebir gan deuluoedd ble mae rhiant yn rhan o bersonél y lluoedd arfog.

Gyda chyfarfodydd grŵp, gweithgareddau, a dyddiau hwyl benodol, gall disgyblion rannu profiadau a gofidiau gyda’i gilydd, gwneud ffrindiau newydd yn yr Ysgol maent efallai wedi symud iddi ar ganol y tymor, derbyn caniatâd am absenoldeb oherwydd bod rhiant wedi dod adref o’r lluoedd arfog, a hyd yn oed edrych ar ôl anifail anwes- sef Nancy, ci Ysgol Uwchradd Cyfarthfa.

Dwedodd y Cynghorydd Andrew Barry, eiriolwr Lluoedd Arfog y Cyngor:“ Llongyfarchiadau i Ysgol Uwchradd Cyfarthfa am ddod yr ysgol gyntaf ym Merthyr Tudful I gyflawni statws efydd YLlAG. Mae’n bwysig bod plant y lluoedd arfog yn derbyn cefnogaeth briodol oherwydd yr amgylchiadau unigryw maent yn ei wynebu yn aml, a gobeithiaf y bydd ysgolion eraill yn dilyn a dangos yr un ymroddiad i’r plant a phobl ifanc hyn.

“Gyda’r Cyngor yn derbyn Gwobr Arian y Weinyddiaeth Amddiffyn fis diwethaf am y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn, mae’r wobr hon eto yn pwysleisio ein hymrwymiad I Gyfamod y Lluoedd”.  

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni