Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cyhoeddi enillwyr Gwobr Gelf 'Cyfosod : Cyfarthfa'
- Categorïau : Press Release
- 11 Meh 2025

Agorodd gwobr gelf newydd Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, Cyfosod : Cyfarthfa, ym mis Mai. Lansiwyd yr arddangosfa yn rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant Cyfarthfa ac mae’n cynnwys gwaith 76 o artistiaid sy'n gweithio yng Nghymru, wnaeth astudio gweithiau celf presennol yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa ac yna 'cyfosod' ymateb cyfoes.
Mae Cyfosod : Cyfarthfa wedi'i gwneud yn bosibl diolch i gefnogaeth gan Sefydliad Cyfarthfa, sef y sefydliad elusennol sy'n hyrwyddo datblygiad hirdymor Castell a Pharc Cyfarthfa ym Merthyr Tudful.
Mae panel wedi beirniadu'r gweithiau a ddaeth i law ac mae tri darn buddugol wedi'u cyhoeddi: ar gyfer paentio, Daniel Lazenby; dyfarnwyd y wobr ffotograffiaeth i Konrad Gwozdz; ac yn y categori printio, Dan Thorne.
Derbyniodd yr artist buddugol ym mhob categori £500 a derbyniodd yr enillydd cyffredinol Daniel Lazenby £1,000 tuag at sioe unigol dros gyfnod o 3 mis yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ddiwedd 2026.
Cafodd sawl artist ganmoliaeth uchel gan gael cyfran o £100 fesul categori. Yn y categori paentio Victoria Beynon oedd yr enillydd amatur a'r artistiaid a gafodd ganmoliaeth uchel oedd Sinead Attwell, Robert da Haan a Gordon Dalton. Hefyd yn cael canmoliaeth uchel am greu printiau oedd Jaqueline Jones ac Anna Marris, ac am ffotograffiaeth Anna Dabrowska a Rory Chapman.
Mae'r gweithiau celf buddugol o bob categori yn cael eu hystyried ar gyfer eu derbyn i gasgliad parhaol Cyfarthfa. Mae'r amgueddfa wedi bod yn casglu ac yn arddangos celf ers 1910 ac mae'n cynnwys gwaith rhai o artistiaid mwyaf enwog Cymru yn y casgliad.
Mae gwaith y tri artist buddugol yn cael ei arddangos fel rhan o arddangosfa Cyfosod : Cyfarthfa, ochr yn ochr â dolenni i weld yr ysbrydoliaeth ar gyfer eu darnau. Bydd yr arddangosfa wedyn yn ffurfio asgwrn cefn rhaglen o weithgareddau addysg a chymunedol, gan annog pobl o bob cefndir i ymgysylltu â'r casgliad o weithiau celf yng Nghyfarthfa.
Dywedodd yr artist buddugol Daniel Lazenby: "Mae’n anrhydedd fawr ac rwy’n ddiolchgar iawn. Rwy'n credu y gall celf a chreadigrwydd fod yn gymaint o rym er daioni, ac mae'n sicr wedi bod yn achubiaeth i mi ar sawl achlysur".
Roedd y panel o feirniaid yn cynnwys André Stitt, artist arobryn o Belfast, Gogledd Iwerddon a oedd yn athro celfyddyd gain yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, ac yn gymrawd o'r Gymdeithas Gelf Frenhinol; Dr Bronwen Colquhoun, Uwch Guradur Ffotograffiaeth yn Amgueddfa Cymru; a Sarah Hopkins, gwneuthurwr printiau, Cyfarwyddwr Gweithdy Argraffu Abertawe ac aelod o Academi Gelf Frenhinol y Cambrian.
Dywedodd y Beirniad Dr Bronwen Colquhoun: "Mae'r tri llun rydw i wedi'u dewis ar gyfer y categori hwn i gyd yn weithiau pwerus ynddynt eu hunain, ond yn y pen draw maent yn gofyn cwestiynau am y cyflwr dynol a sut mae'n cael ei lywio gan gymdeithas. Maent i gyd wedi ymateb yn llwyddiannus iawn i'r briff trwy ail-ddychmygu ac ailddehongli'r gweithiau celf yn y casgliad mewn cyd-destun cyfoes.
"Mae enillydd y categori hwn wedi creu portread hynod bwerus sydd wedi ei gyfansoddi’n hyfryd sy'n archwilio themâu hunaniaeth a pherthyn, wedi'i osod yn erbyn cefndir lle."
Mynegodd Jess Mahoney, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Cyfarthfa sydd wedi cefnogi Cyfosod : Cyfarthfa, falchder y Sefydliad am y wobr gelf a'r arddangosfa "Mae wedi bod yn fraint cefnogi Amgueddfa ac Oriel Gelf Cyfarthfa i lansio Gwobr Gelf Cyfosod : Cyfarthfa yn 200fed blwyddyn Cyfarthfa. Mae ansawdd ac amrywiaeth y gwaith yn rhagorol ac mae'n cynnwys rhai ymatebion diddorol ac ysgogol i gasgliad parhaol yr oriel.
"Mae'r arddangosfa hefyd yn cyd-fynd yn agos â'n huchelgeisiau hirdymor ar gyfer datblygiad Cyfarthfa, yr ydym yn aml yn ei ddisgrifio fel defnyddio'r gorffennol' fel 'offeryn y gall y presennol adeiladu dyfodol ag ef'. Mae'r artistiaid sy'n cael eu harddangos yn ymgorffori'r cyfosodiad hwnnw mewn ffyrdd llythrennol iawn: maent wedi cymryd yr hyn sy'n perthyn i'n treftadaeth a rennir, a'i ddefnyddio i greu ymateb cyfoes a fydd bellach yn dod yn rhan o ddyfodol yr adeilad anhygoel hwn. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda thîm yr amgueddfa a'r oriel, a'r gymuned greadigol ehangach, wrth i ni ategu llwyddiant y wobr gyntaf hon, a llunio'r dyfodol hwnnw gyda'n gilydd."
Dywedodd Klara Sroka, Curadur Gwobr Gelf Cyfosod : Cyfarthfa a Chydlynydd Celfyddydau ac Arddangosfeydd Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa "Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint cael curadu'r alwad gelf hon, mae gennym gymaint o geisiadau anhygoel sy'n tynnu sylw at ddisgwrs cyfoes am hunaniaeth, lle, yr argyfwng hinsawdd ac wrth gwrs yn dathlu ein hanes haearn godidog. Rydym yn falch iawn o rannu'r arddangosfa gelf gyfoes fywiog ac amrywiol hon gyda'n holl ymwelwyr yn yr amgueddfa i ddathlu ein deucanmlwyddiant".
Mae'r arddangosfa Cyfosod : Cyfarthfa yn weithredol o ddydd Gwener 23 Mai tan ddydd Sul 31 Awst. Mae mynediad i'r amgueddfa yn costio £3.50 i oedolion, £3 consesiynau ac mae plant am ddim.
I wybod mwy, ewch i https://www.cyfarthfa.co.uk/cy/