Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cylch Meithrin Y Gurnos yn ennill Cylch Meithrin Cymraeg gorau De Ddwyrain Cymru

  • Categorïau : Press Release
  • 16 Tach 2023
Meithrin Award

Bwriad Seremoni Wobrwyo Flynyddol Mudiad Meithrin, a gynhaliwyd ar Hydref 14eg, yw cydnabod a dathlu’r gwaith rhagorol a gyflawnwyd yng nghylchoedd chwarae a meithrinfeydd dydd cyfrwng Cymraeg Mudiad Meithrin ledled Cymru.

Dywedodd Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin:

“Mae ein Seremoni Wobrwyo yn ffordd wych o godi proffil y gweithlu a lleoliadau blynyddoedd cynnar ac mae’n dangos pa mor bwysig yw’r gwasanaeth hwn i’r gymuned leol ac i’r economi. Derbyniwyd dros 300 o enwebiadau eleni, ac mae’n ffordd hyfryd i’r staff a’r gwirfoddolwyr gael eu cydnabod trwy gael eu henwebu gan rieni’r plant yn eu gofal.”

Mae’n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gyhoeddi bod ein Cylch Meithrin Y Gurnos wedi ennill gwobr Cylch Chwarae Gorau De Ddwyrain Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Hyrwyddwr y Gymraeg; “Mae’r Awdurdod Lleol yn hynod falch o glywed fod Cylch Meithrin y Gurnos wedi ennill y wobr am y Cylch Meithrin gorau yn Ne Ddwyrain Cymru.

“Mae tyfu addysg cyfrwng Cymraeg yn elfen allweddol o’n cynllun strategol Cymraeg mewn Addysg ac mae’r wobr hon yn cefnogi ein huchelgais.

“Mae’r cylch chwarae yn ychwanegiad newydd i’r gymuned, gan agor ei ddrysau ym mis Ionawr 2023, felly mae hyn yn wir yn gyflawniad gwych. Da iawn i'r staff a'r pwyllgor rheoli sydd wedi gweithio'n galed i ddatblygu'r lleoliad ers iddo agor. Llongyfarchiadau i bawb!”

I ddarganfod mwy am Cylch Meithrin Y Gurnos ewch i https://meithrin.cymru/

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni