Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cynlluniau ar gyfer adleoli Marchnad Dan Do Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 13 Ion 2025

Bydd Marchnad Dan Do Merthyr Tudful yn adleoli i lawr gwaelod hen adeilad Wilko yng Nghanolfan Siopa Santes Tudful, yn dilyn ymgynghori â stondinwyr a'r cyhoedd yn ehangach.
Lluniwyd cynllun cysyniad cyffrous ar gyfer marchnad fwy amlweddog, fodern, gydag elfennau traddodiadol. Bydd y gofod hefyd yn cynnwys ardal synhwyraidd, ardal berfformio ar wahân a hyd yn oed gofod arddangos.
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Scriven, Aelod Cabinet dros Adfywio a Thai: "Rwy'n falch iawn fel yr aelod cabinet newydd o fod yn symud y prosiect hwn ymlaen gyda fy nhîm ymroddedig o swyddogion. Mae datblygiad canol y dref yn hynod bwysig i mi ac rwyf am sicrhau ein bod yn cael hyn yn iawn i bobl Merthyr Tudful. Yn ystod ymgynghoriad Cynllun Creu Lleoedd Merthyr Tudful, gwrandawsom ar awgrymiadau'r gymuned ynghylch ail-leoli'r farchnad dan do bresennol, ac mae'r cynlluniau sydd gennym ar waith bellach yn adlewyrchu'r adborth hwnnw.
"Bydd y farchnad newydd yn cynnwys marchnad cynnyrch, academi farchnad i feithrin masnachwyr yn y dyfodol, a chyfleusterau gwell i'n tenantiaid. Bydd hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer stondinau dros dro, gan ei gwneud yn haws i bobl archwilio gyrfa mewn masnachu marchnad.
"Rydym wedi rhannu'r cynlluniau hyn gyda'n tenantiaid presennol ac rydym bellach yn gweithio'n agos gyda phenseiri arbenigol i ddod â'r weledigaeth hon yn fyw. Ein nod yw cael y farchnad dan do newydd yn barod ac yn weithredol erbyn y Nadolig eleni."