Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gŵyl Day Fever yn tanio'r dref â pherfformiadau gwych ac ysbryd cymunedol!

  • Categorïau : Press Release
  • 30 Meh 2025
Day Fever (1)

Ddydd Sadwrn 28 Mehefin, trawsnewidiodd Sgwâr Penderyn yn barti bywiog, gan ddenu 2,000 o bobl a oedd yn awyddus i amsugno egni'r ŵyl fwyaf epig o'r 80au i gyrraedd ein tref. Dyma’r ŵyl gyntaf o'i fath, roedd yn ddathliad a adawodd argraff wych ar Ferthyr Tudful.

"Rydym wrth ein bodd yn dathhlu llwyddiant ysgubol Gŵyl Day Fever," meddai' Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Brent Carter. "Roedd yn anhygoel gweld ein tref yn dod yn fyw â cherddoriaeth, chwerthin ac ymdeimlad o gymuned. Mae'r ŵyl nid yn unig wedi rhoi ein tref ar y map ond hefyd wedi dod â'n trigolion at ei gilydd, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a balchder. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU a wnaeth y digwyddiad anhygoel hwn yn bosibl."

Roedd yr Ŵyl yn ddathliad o adloniant yr 80au gan  ymfalchïo mewn lineup adnabyddus a oedd yn cynnwys y gŵr lleol, Jonny Owen a'i wraig, Vicky McClure, Amelle, cynt o’r Sugababes, The Electric 80's UK Live Band, Bradley o S Club 7 a Tiffany. Ond yr hyn a wnaeth y digwyddiad hwn yn arbennig oedd ei gynhwysiant - roedd yr Ŵyl Ymylol, a gynhaliwyd yng nghanol y dref yn rhad ac am ddim, gan ganiatáu i bawb ymuno a mwynhau'r perfformwyr lleol.

Roedd effaith yr ŵyl yn amlwg, gyda chynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref. Wrth i bobl ymgynnull i fwynhau'r gerddoriaeth, y bwyd a’r gwmniaeth, roedd y dref yn llawn ymdeimlad newydd o fywiogrwydd a chyffro. "Roedd yn anhygoel gweld ein tref yn llawn egni a bywyd," meddai'r Cynghorydd Carter. "Mae Gŵyl Day Fever wedi dangos i ni bŵer cymuned a phwysigrwydd buddsoddi mewn digwyddiadau sy'n dod â phobl at ei gilydd. Ni allwn aros i adeiladu ar y momentwm hwn a chreu profiadau hyd yn oed mwy bythgofiadwy i'n trigolion a'n hymwelwyr."

Gallwch ail-fyw uchafbwyntiau Gŵyl Day Fever a pharatowch i ymuno â'r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #DayFeverMerthyr. Gadewch i ni gadw ysbryd y digwyddiad bythgofiadwy hwn yn fyw a gwneud ein tref yn lle hyd yn oed yn fwy anhygoel i fyw, gweithio ac ymweld â hi!

Gwnaed y digwyddiad hwn yn bosibl diolch i Raglen Cronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU, Grant Digwyddiadau Cymru Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni