Ar-lein, Mae'n arbed amser
Mae’r gwaith i ddymchwel yr hen orsaf fysiau ar ddechrau
- Categorïau : Press Release
- 19 Tach 2021

Mae’r gwaith o ddymchwel yr hen orsaf fysiau ar ddechrau ar yr wythnos yn dechrau Tachwedd 22ain 2021.
Mae Aberdare Demolition wedi eu hapwyntio i gynnal y gwaith, y disgwylir iddo gymeryd pum wythnos . Bydd gweithwyr ar y safle o 8am hyd 5.30pm Dydd Llun i Dydd Sadwrn.
Caeodd y safle ar y Clastir ym mis Mehefin pan agorodd y Cyngor yr orsaf newydd ar Stryd yr Alarch
Mae ail-ddatblygu yr ardal wedi ei nodi fel rhan o bri gynllun project allweddol 15 mlynedd Canol Tref Merthyr Tudful.
Mae y Cyngor wedi cynnal ymgynghoriad diweddar yn gofyn barn preswylwyr a busnesau, gan gynnwys parc, marchnad canol tref, stondinau bwyd a diod parhaol,ardal chwarae i blant a lleoliad cymunedol aml-ddefnydd. Bydd yr ymatebion yn cael eu hystyried wrth fireinio y cynlluniau yn y misoedd nesaf.
“Mae yr hen orsaf fysiau yn cynnwys adeilad sylweddol mewn lleoliad amlwg ac mae angen ei ddymchwel yn ofalus a diogelu’r safle” meddai yr Aelod Cabinet a phortffolio ar gyfer adfywio, trawsnewid a masnacheiddio y Cynghorydd Geraint Thomas.”
.