Ar-lein, Mae'n arbed amser
Dirprwy Bennaeth yn ennill Gwobr Cyflawniad Oes am waith trawsnewidiol
- Categorïau : Press Release
- 18 Meh 2025

Mae Dirprwy Bennaeth Ysgol Arbennig Greenfield, Carol Conway, wedi cael ei chydnabod â Gwobr Arian am Gyflawniad Oes yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson eleni.
Wedi'i ddewis o blith miloedd o enwebeion, bydd Carol nawr yn cael cyfle i ennill y Wobr Aur a fydd yn cael ei chyhoeddi mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn Llundain ac ar raglen 'The One Show' y BBC yn ddiweddarach eleni.
Mae Carol wedi bod yn addysgu mewn Addysg Arbennig ers 30 mlynedd ac wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu addysg arbennig i'r gweithlu addysg arbenigol medrus iawn sydd gennym heddiw. Daeth Carol â dulliau dysgu i Gymru yn gynnar yn 2000 fel PECS a hyfforddiant ymwybyddiaeth Awtistiaeth.
Mae ei gwaith wedi cael effaith gadarnhaol ar lawer o blant a'u teuluoedd. Mae llawer o'i disgyblion wedi tyfu i fod yn annibynnol â’r gallu i gyfathrebu sydd wedi bod yn drawsnewidiol. Mae ei chyfraniad at ddatblygu hyfforddiant Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol wedi cynorthwyo i lunio'r symudiad tuag at ymagwedd fwy cadarnhaol a moesegol mewn ysgolion ledled Cymru a thu hwnt.
Mae Carol yn un o’r 93 o athrawon, darlithwyr, arweinwyr, staff cymorth a sefydliadau haeddiannol a gydnabyddir â’r wobr arian eleni am yr effaith barhaol y maent yn eu cael ar lunio bywydau pobl ifanc.
Yn dathlu'r gymuned addysg gyfan, mae Diwrnod Cenedlaethol Diolchgarwch i Athro a Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson yn cael eu cynnal gan yr Ymddiriedolaeth Gwobrau Addysgu; elusen annibynnol a sefydlwyd dros 25 mlynedd yn ôl i ddathlu effaith drawsnewidiol addysg, gan daflu goleuni ar y rolau allweddol y mae athrawon, staff cymorth, colegau, ysgolion ac addysgwyr y blynyddoedd cynnar yn eu cael wrth ysbrydoli pobl ifanc, bob dydd.
Dywedodd Lynne Neagle; Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: "Unwaith eto mae’n gweithlu talentog wedi cael ei gydnabod am eu gwaith caled a'u hymroddiad, gyda'r enillwyr arian yn cynrychioli'r gweithlu ar draws ystod eang o’r byd addysg, o flynyddoedd cynnar i Addysg Bellach. Mae'r gwobrau am gyflawniad oes i Carol a Lynn yn arbennig o bwysig gan dynnu sylw at y rhai sydd wedi ymroi i addysgu'r genhedlaeth nesaf yng Nghymru. Llongyfarchiadau i bawb ac rwy'n dymuno pob lwc i chi ar gyfer y gwobrau Aur yn ddiweddarach eleni."
Dywedodd Rhiannon Stephens Davies, Pennaeth Ysgol Arbennig Greenfield: "Mae Carol yn ysbrydoliaeth i bawb sy'n ymwneud â phlant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydym mor falch bod Carol wedi cael ei chydnabod am ei gwaith oes wrth ymdrechu i gael dyheadau uchel i'n holl ddisgyblion. Dros y 30 mlynedd diwethaf mae Carol wedi gwella bywydau’n disgyblion a'u teuluoedd trwy addysgu arbenigol arloesol o safon. Mae gan Carol bersonoliaeth heintus a hi yw curiad calon Ysgol Arbennig Greenfield. Byddwn i gyd yn gweld ei cholli pan fydd hi'n ymddeol yr haf hwn."