Ar-lein, Mae'n arbed amser
Safle segur i ddod yn ganolbwynt modern i fusnesau Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 18 Gor 2023

Mae tri dyn busnes o Ferthyr Tudful wedi ffurfio cwmni newydd i ddatblygu safle tir Llwyd i barc busnes diweddaraf y fwrdeistref.
Bydd yr ardal o dir ar Stad Ddiwydiannol Pant, Dowlais – a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan ICI fel gwaith cemegol – yn cael ei drawsnewid yn ystâd o 14 o unedau ffatri, yn benodol ar gyfer microfusnesau a busnesau bach a chanolig.
Y prosiect hwn yw’r cyntaf ym Merthyr Tudful i dderbyn Grant Datblygu Eiddo Llywodraeth Cymru - o £2.6 miliwn tuag at gost datblygu cyffredinol o tua £5m.
Gyda’r teitl gweithredol ‘Parc Busnes Paisley’, syniad MKR Property Developments yw’r cynllun – a sefydlwyd gan Mike Williams a Kerry Mullin, Cyfarwyddwyr cwmni peirianneg ac adeiladu Mikerry Rail mewn partneriaeth â Rob Price, Cyfarwyddwr Grŵp Eiddo Highfield.
“Fe wnaeth Llywodraeth Cymru a thîm adfywio’r Cyngor Bwrdeistref Sirol ill dau nodi manteision datblygu safle tir llwyd problemus, a oedd â halogion daear cemegol a gweddillion yr adeiladau gwreiddiol,” meddai Rob Price.
“Roedden nhw hefyd yn gwerthfawrogi’r angen am gyfleusterau modern ar gyfer busnesau menter/cychwynnol ac wedi rhoi eu cefnogaeth lwyr i’r prosiect,” ychwanegodd.
“Mae wedi bod yn daith anodd, ond gyda’r gefnogaeth honno, rydym nawr yn dechrau gwireddu ein breuddwyd ac o’r diwedd wedi cychwyn ar y gwaith gyda’r nod o gwblhau erbyn mis Mai y flwyddyn nesaf.”
Trojan Construction Management sydd wedi ei lleoli ym Mhontypridd - ac mae David Thomas, un o’r cyfarwyddwyr yn dod o Ferthyr Tudful - ystâd yn gynnar ym mis Gorffennaf. Bydd 14 uned o wahanol feintiau, yn amrywio o 926 troedfedd sgwâr i 4,047 troedfedd sgwâr, gyda’r nod o ddod ar gael i fentrau neu fusnesau fynegi diddordeb tua mis Medi 2023.
Dwedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Arweinydd y Cyngor bod tri cyfarwyddwr y cwmni wedi eu geni a’u magu ym Merthyr Tudful ac yn gweithredu busnesau llwyddianus.
“Fe benderfynon nhw atgyfnerthu eu harbenigedd a’u craffter busnes sylweddol i ddarparu cyfleoedd i ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig ar draws y fwrdeistref sirol,” ychwanegodd.
“Rwy’n deall mai dyma’r unig arian Grant Datblygu Eiddo Llywodraeth Cymru sydd wedi’i dderbyn ym Merthyr Tudful, felly mae hwn yn llwyddiant gwirioneddol. Llongyfarchiadau i MKR – rydym i gyd yn edrych ymlaen at weld y canolbwynt busnes newydd gwych hwn yn gwella ein heconomi leol ymhellach.”