Ar-lein, Mae'n arbed amser

Camp Lawn Amrywiaeth i Dîm Rygbi Merched Trefedward

  • Categorïau : Press Release , Education , Schools
  • 22 Meh 2022
Girls tag rugby

Mae merched yn Ysgol Gynradd Trefedward wedi taclo i rownd gyn-derfynol twrnamaint yr Urdd, gan chwarae mewn tim rygbi TAG a dathlu amrywiaeth mewn chwaraeon.

Cyrhaeddodd tîm rygbi'r merched rownd cynderfynol twrnamaint cenedlaethol yr Urdd yn ogystal â chymryd rhan mewn gem rygbi cymysg gyda’r Urdd ar Orffennaf y 5ed. Mae’r tîm a hyfforddir gan Ethan Griffiths wedi bod yn datblygu ei sgiliau ers y llynedd.

Mae’r ysgol yn annog pawb sy’n angerddol dros rygbi i ymuno gwaeth beth ei rhyw, ac mae’r sesiynau yn cynnwys taclo, TAG a gwella sgiliau. Gall merched benderfynu pa sesiynau maent am gymered rhan, gyda chymysgedd o gemau cyswllt a heb gyswllt.

Ar ben hyn, mae’r tîm wedi dylunio eu cit gyda chefnogaeth maswr Undeb Rygbi Cymru, Tomos Williams.Rhoddodd Toms bel Rygbi wedi ei harwyddo ar gyfer raffl yr ysgol, a chodwyd  £1200  tuag at offer a chit rygbi ar gyfer y merched.

Dwedodd y Cyng. Michelle Jones, aelod y cabinet dros ddysgu  “Fel mam sydd wedi annog fy merch a mab i chwarae pa bynnag chwaraeon, mae’n wych gweld hyn yn digwydd i fechgyn a merched o fewn ysgolion. Mae  Rygbi wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd, ac wedi bod yn Ysgrifenydd Adran Fini ac Iau Clwb Rygbi Merthyr am 5 mlynedd. Mae’n hynod bwysig bod amrywiaeth yn ein hysgolion, gan ddileu unrhyw rwystrau rhag cymryd rhan neu gystadlu. Mae Trefedward yn enghraifft o hyn a byddaf yn annog mwy o hyn ar draws ysgolion y Fwrdeistref.”

Dwedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Trefedward, Liz Edmunds,  “Rydym yn falch iawn o dim rygbi’r ysgol- mae’r garfan yn tyfu ac nawr mae 30 o blant yn hyfforddi yn wythnosol. Rydym yn awyddus bod pob plentyn yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i siop Co-Op Treharris, Mr Paul O’Neil a The Barber shop Merthyr ( Cath Lewis) am noddi'r cit newydd a gynlluniwyd gan y plant. Rydym yn edrych ymlaen at ein twrnamaint nesaf ar Orffennaf y 5ed pan fydd ein tim cymysg yn cymryd rhan.

Dwedodd Pencampwr Amrywiaeth a Chydraddoldeb y Cyngor a Chynghorydd Treharris y Cyng. Gareth Richards, “ Rydw i’n falch o weld chwaraeon sydd fel arfer wedi ei chwarae gan fechgyn a dynion bellach ar gael beth bynnag eich rhyw. Er bod mwy i’w wneud, mae’n dangos y cynnydd diweddar, sydd wedi ei arwain gan enghreifftiau cenedlaethol. Rydw i’n arbennig o falch o Ysgol Gynradd Trefedward ble rwy’n Llywodraethwr ac yn dymuno’n dda iddynt ar Orffennaf y 5ed ”.

 

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni