Ar-lein, Mae'n arbed amser
Diwrnod Shwmae/Su’mae
- Categorïau : Press Release
- 17 Tach 2025
Roedd dathliad blynyddol Diwrnod Shwmae/Su'mae yn llwyddiant bywiog a chyffrous, gyda gweithgareddau yn cael eu cynnal mewn saith lleoliad gwahanol ledled Merthyr Tudful ddydd Sadwrn 18 Hydref. Roedd y lleoliadau hyn yn cynnwys Amgueddfa Cyfarthfa, Llyfrgell Merthyr Tudful, Canolfan Gymunedol Treharris, Tŷ Injan Dowlais, Clwb Crown, Maes y Clastir a Theatr Soar.
Daeth y digwyddiad eleni ag egni newydd i'r dref, gyda Maes y Clastir yn cynnal y prif ddathliad am y tro cyntaf. Gwelodd canol y dref gynnydd sylweddol mewn ymwelwyr, wrth i drigolion ac ymwelwyr ddod at ei gilydd i fwynhau diwrnod llawn cerddoriaeth, gweithdai ac ysbryd cymunedol.
Cyflwynwyd amrywiaeth eang o berfformiadau gan ysgolion, gan greu awyrgylch bywiog a chynhwysol. Cymerodd teuluoedd, sefydliadau ac unigolion ran yn dathlu'r Gymraeg mewn ffyrdd creadigol a diddorol.
Rhannodd Darwynno, un o'r sefydliadau a gymerodd ran eu profiad:
"Cawsom groeso hyfryd gan y rheolwr a'r staff yn Nhreharris, ac fe wnaethon ni fwynhau'r diwrnod yn fawr."
Myfyriodd ymwelydd hefyd ar yr awyrgylch gadarnhaol:
"Cawsom groeso mawr. Roed dyna wefr a llawer o bobl yn mwynhau eu hunain. Roedd fy merch yn mwynhau'r holl weithgareddau a chafodd gyfle i ddefnyddio rhywfaint o’I Chymraeg. Diolch yn fawr!"
Rhannodd teulu arall eu bod wedi teithio o Bontypridd yn benodol i fynychu'r gweithdy Pokémon, gan dynnu sylw at atyniad ac apêl gweithgareddau dwyieithog y digwyddiad:
"Gwelsom y gweithdy Pokémon yn cael ei hysbysebu ac roedd rhaid i ni ddod. Roedd yn werth chweil - roedd y plant wrth eu bodd ac roedd yn wych gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn ffordd mor hwyliog."
Mae llwyddiant Diwrnod Shwmae/Su'mae eleni yn adlewyrchu'r brwdfrydedd cynyddol dros y Gymraeg, ledled Merthyr Tudful. Gyda chymaint o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, perfformiadau a sgyrsiau yn y Gymraeg, mae'r digwyddiad wedi cynorthwyo i gryfhau balchder cymunedol ac wedi annog hyd yn oed mwy o bobl i ddefnyddio a dathlu'r iaith yn eu bywydau bob dydd.
Diolch o galon
Hoffem estyn ein diolch diffuant i bawb a gymerodd ran ac a gefnogodd a helpodd i ddod â'r diwrnod yn fyw — roedd eich brwdfrydedd a'ch ymrwymiad i'r Gymraeg yn ei gwneud yn wirioneddol arbennig.
Busnesau a phartneriaid fu’n cymryd rhan:
- Yr Hen Lyfrgell – cardiau Cymraeg, nwyddau pren, a fframiau Cymreig
- Framed – Dillad ac ategolion
- Castell Apothecary – Sebonau wedi'u gwneud â llaw, bariau siampŵ, canhwyllau, tryledwyr ac arolygyddion ceir
- Llawn Cariad – Siop anrhegion a llyfrau Cymraeg
- Cymraeg Creations – Dillad wedi'u personoli, nwyddau diod, anrhegion, cardiau ac ategolion
- Canhwyllau Cana - Canhwyllau, cwyr doddwyr a trufflau
- GM Notepads – llyfrau nodiadau i ddysgwyr Cymraeg, dyddiaduron pryderon, ac anrhegion sy'n canolbwyntio ar y Gymraeg
- Rhyd – Anrhegion wedi'u gwneud â llaw mewn pren a metel
- Rhian Mair Lewis – Stondin gemwaith yn hyrwyddo'r Gymraeg
- Gwaith Llaw Crafts – Celf a Chrefft
- Mudiad Meithrin
- Siop Soar a Menter Iaith Merthyr Tudful
- Coleg Merthyr
- Ysgolion Bro
- Ymgysylltiad Teuluol Edwardsville
- Urdd
- Dysgu Cymraeg Morgannwg
Ysgolion a gymerodd ran:
- Ysgol Gynradd Gymraeg Santes Tudful
- Ysgol Gynradd y Graig
- Ysgol Gynradd Caedraw
- Ysgol Gynradd Gymraeg Rhyd-y-Grug
- Ysgol Gynradd Gellifaelog
- Y Coleg Merthyr Tudful