Ar-lein, Mae'n arbed amser

Anogir cerddwyr, peidiwch â dinistrio cefn gwlad.

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Mai 2020
Countryside littering

Gyda mwy o bobl nag arfer yn cerdded yng nghefn gwlad ar hyn o bryd, rydyn ni’n apelio arnoch i gadw at y Cod Cefn Gwlad a mynd â’ch sbwriel adref.

Mae cyfran helaeth o’n bwrdeistref sirol yn gorwedd o fewn tirwedd hardd, ac mae nifer cynyddol o drigolion yn manteisio ar hynny i gael rhywfaint o awyr iach ac ymarfer corff yn ystod y cyfnod clo.

Fodd bynnag, yn sgil y twf yn y niferoedd, daeth cynnydd cyfatebol yn y sbwriel a adewir ar ôl, gan roi pwysau ychwanegol ar lanweithio strydoedd, diogelu hawliau tramwy a gorfodi gwastraff, a chan ddifetha ein tirwedd hardd.

Mae llanast cŵn yn broblem arall o bwys yng nghefn gwlad ac mae wedi gwaethygu ers i’r pandemig ddechrau. Os yw’ch ci yn baeddu mewn man cyhoeddus, rhaid i chi lanhau’r llanast neu gallwch wynebu dirwy o £2,500.

Un o’r prif beryglon i’r cyhoedd yw toxocara canis, pryf genwair sy’n dodwy wyau mewn baw cŵn. Gall plant ifanc eu codi’n hawdd, gan arwain at stumog dost, dolur gwddf, asthma ac - mewn achosion prin - dallineb.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Geraint Thomas: “Rydyn ni mor ffodus fod gennym ni ym Merthyr Tudful olygfeydd syfrdanol ar garreg ein drws ac nad oes raid i ni deithio’n bell i’w cyrraedd.

“Rydyn ni hefyd yn ffodus o gael llwybrau rhyfeddol a rhwydwaith helaeth o Hawliau Tramwy, sy’n caniatáu i bobl o bob oed fynd allan ac o gwmpas.

“Serch hynny, nid yw rhai o’n preswylwyr yn parchu’r amwynderau gwych hyn ac maen nhw’n gadael sbwriel a llanast cŵn ar eu hôl.”

“Da chi, cofiwch ddilyn y Cod Cefn Gwlad - diogelwch y planhigion a’r anifeiliaid ac ewch â’ch sbwriel adref, cadwch eich cŵn dan reolaeth agos a chasglwch eu baw. Ceisiwch fwynhau - ac nid dinistrio - ein cefn gwlad.”

#EinCefnGwlad #PleserNid Dinistr

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni