Ar-lein, Mae'n arbed amser

Peidiwch â Bwydo’r Llygod Ffyrnig yn eich Gwastraff Bwyd

  • Categorïau : Press Release
  • 05 Maw 2026
RATS PR

Dros yr wythnosau diwethaf bu cynnydd sylweddol yn y nifer o lygod ffyrnig sy’n cael eu gweld ac yn y niferoedd o adroddiadau am blâu ledled ein Bwrdeistref Sirol.

Rydym yn gwybod bod llygod ffyrnig yn cario amryw afiechydon sy’n gallu effeithio’n ddifrifol ar iechyd pobl. Mae trigolion sy’n parhau i roi bwyd yn eu biniau arferol yn hytrach na’i ailgylchlu yn ddiarwybod iddynt yn darparu bwyd i’r llygod ffyrnig ac yn rhoi eraill mewn peryg.

Mae’r Cyngor yn annog pob un o’n trigolion i ailgylchu eu gwastraff bwyd yn ddiogel ac yn gyfrifol gan ddefnyddio’r biniau bwyd sy’n cloi ac sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Gofynnwch am fin heddiw: https://www.merthyr.gov.uk/resident/bins-and-recycling

Yn ôl Cymdeithas Rheoli Plâu Prydain, gall llygod ffyrnig wasgu trwy fwlch mor denau â phensil. Felly, mae cadw llygod mawr allan o fin sbwriel bron yn amhosibl. Fodd bynnag, mae’r biniau ailgylchu bwyd a ddarperir gan y Cyngor yn cloi'n ddiogel pan adewir y ddolen yn unionsyth gan helpu i gadw plâu allan. Rhowch yr holl wastraff bwyd yn y bagiau compostadwy a ddarperir yn rhad ac am ddim gan y Cyngor a rhowch y bagiau yn eich bin bwyd sy’n cloi er mwyn cadw plâu i ffwrdd o'ch cartref a'ch biniau.

Mae llygod ffyrnig yn oportiwnyddion a byddant yn manteisio ar unrhyw amgylchedd sy'n gadael iddynt gael gafael yn hawdd ar fwyd, dŵr a lloches. Maent yn cael eu denu at:

 

Finiau sbwriel
Biniau sy'n gorlifo neu wedi'u cau’n wael. Rhoi eich gwastraff cartref allan ar eich dyddiau casglu yn unig. Gorchuddiwch eich gwastraff yn iawn. Ailgylchwch eich gwastraff bwyd yn gywir.

Bwyd anifeiliaid anwes
Wedi'i adael y tu allan neu mewn sied mewn bagiau neu fowlenni agored. Gall anifeiliaid anwes sy’n cael eu cadw yn yr awyr agored, fel moch cwta, ddenu llygod mawr o ganlyniad i’r bwyd yn eu cytiau a storfeydd.

Dŵr llonydd
Pibiau sy'n gollwng, tapiau sy'n diferu, cwteri wedi'u blocio, neu hambyrddau o dan botiau blodau.

Gerddi
Mae glaswellt tal, tomenni coed, ac eitemau nas defnyddir yn darparu mannau cuddio a lloches iddynt

Mannau bwydo adar a bwyd sydd wedi cwympo i’r llawr
Gormod o hadau adar, yn enwedig rhai sydd wedi'u gadael ar y ddaear.

Tomenni compost
Gwnewch yn siŵr eu bod wedi'u cau yn iawn.

Draeniau
Gall systemau draenio sydd wedi'u difrodi, fel pibellau wedi torri, roi mynediad hawdd iddynt o systemau draenio i erddi ac adeiladau

Bylchau mewn gwaith brics
Gall fentiau diffygiol neu friciau sydd wedi torri roi mynediad i’r llygod ffyrnig i geudodau o fewn y wal.

Gwnewch eich rhan i gadw ein cymuned yn lân ac yn ddiogel a'n helpu i gyrraedd ein targedau ailgylchu yn 2026.

Am ragor o wybodaeth
Facebook: Merthyr Tydfil Recycles
Gwefan: Biniau ac Ailgylchu | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Rhif Ffôn: 01685 725000

Os oes gennych broblem rheoli plâu, defnyddiwch gontractwyr rheoli plâu proffesiynol, cymeradwy yn unig.

Rheoli Plâu: https://www.merthyr.gov.uk/resident/pests-pollution-food-hygiene/pest-control/?lang=cy-GB&

Cymorth Tipio Anghyfreithlon: merthyr.gov.uk/resident/waste-recycling-fly-tipping

Os oes gennych unrhyw broblem strwythurol gyda'ch cartref, cysylltwch â'ch darparwr tai.

 

 

 

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni