Ar-lein, Mae'n arbed amser

Peidiwch anghofio’ch Prawf Adnabod yn y gorsafoedd pleidleisio eleni!

  • Categorïau : Press Release
  • 12 Ebr 2024
voter id

Nodyn cwrtais i atgoffa’n preswylwyr y bydd rhaid i chi mewn rhai etholiadau yng Nghymru, fel Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Is-etholiadau Llywodraeth y DU a deisebau i ddangos llun adnabod yn yr Orsaf Bleidleisio. Fodd bynnag, ni fydd angen llun adnabod ar gyfer Etholiadau’r Senedd a Llywodraeth Leol.

Sicrhewch, os nad oes gennych brawf adnabod derbyniol y bydd rhaid i chi wneud cais am ddogfen adnabod pleidleisiwr, yn rhad ac am ddim cyn y dyddiad cau ar Ddydd Mercher 24 Ebrill 2024.

Cliciwch yma ar gyfer rhestr lawn o brawf adnabod derbyniol.

Gallwch wneud cais am ddogfen adnabod pleidleisiwr, yn rhad ac am ddim sef Tystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr os:

  • nad oes gennych lun adnabod sydd yn dderbyniol
  • nad ydych yn siŵr os yw’ch llun adnabod yn edrych fel chi
  • ydych yn bryderus ynghylch defnyddio unrhyw fodd o adnabod am unrhyw reswm fel dynodwr rhywedd.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni